Neuaddau Preswyl Penbryn
You don't appear to Flash installed. Please download it here to view this video.
Alternatively you can download the tour of Penbryn Halls of Residence in MP4 format here.
Penbryn yw un o’r prif neuaddau preswyl i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Mae’r awyrgylch cyfeillgar a gofalgar yn golygu y gallwch ymgartrefu’n hawdd i’ch bywyd newydd yn y brifysgol.
Oherwydd y cyfleusterau ardderchog ym Mhenbryn bydd eich arhosiad yma cymaint yn haws a gallwch ganolbwyntio ar agweddau pwysicach ar eich bywyd prifysgol. Mae bwyty newydd a chwaethus TaMed Da yn rhan o Benbryn ac yn cynnig rhywbeth at ddant pawb; mae’r bwyty yn aml yn rhoi cynigion arbennig i wneud bywyd prifysgol ychydig bach yn haws i’ch cyfrif banc.
Y golchdai mawr, yr ystafelloedd cyfrifiaduron penigamp, digon o leoedd parcio diogel - dyma rai o’r rhesymau pam mai Penbryn yn aml yw dewis cyntaf ein blwyddyn gyntaf o ran neuaddau preswyl.
Mae gan holl ystafelloedd gwely Penbryn fynediad di-dâl i gysylltiad rhyngrwyd cyflymder uchel y brifysgol. Efallai mai chi fydd un o’r rhai lwcus i gael ystafell sy’n wynebu’r gorllewin gyda golygfeydd anhygoel ar draws Bae Ceredigion.