Pentre Jane Morgan
You don't appear to have Flash installed. Please download it here to view this video.
Alternatively you can download the tour of Pentre Jane Morgan in MP4 format here.
Gyferbyn â’r prif gampws mae pentre’r myfyrwyr a adnabyddir fel PJM. Mae’n cynnig llety gwych mewn lleoliad hardd iawn ac yn gartref i 922 o fyfyrwyr.
Mae’r pentre’n cynnwys tai unigol sy’n gartref i grwpiau o 5 neu 6 myfyriwr mewn ystafelloedd gwely sengl, yn rhannu adnoddau cegin ac ystafelloedd ymolchi. Mae cysylltiadau cyfrifiadurol gyda rhwydwaith y Brifysgol ym mhob ystafell. Mae adnoddau canolog yn y pentref a cheir yma ystafell gyfrifiaduron a man golchi dillad. Mae cyfrifiaduron, mynediad di-wifr, mannau astudio mewn grwp, dodrefn cyfforddus er mwyn ymlacio a pheiriannau gwerthu byrbrydau yn Lolfa PJM.
Mae pont droed yn arwain o’r campws i PJM.