Canolfan Chwaraeon
You don't appear to Flash installed. Please download it here to view this video.
Alternatively you can download the tour of the Sports Centre in MP4 format here.
Mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth rhagorol o gyfleusterau a gweithgareddau chwaraeon ac ymarfer corff, a hefyd cyfleoedd recriwtio i fyfyrwyr. Ymhlith y cyfleusterau mae:
- Stiwdio ddawns/ymarfer
- Pwll nofio wedi’i adnewyddu’n llwyr
- Sawnariwm
- Solariwm
- Cyrtiau sboncen
- Pêl foli
- Badminton
- Cyrtiau pêl-fasged
- Maes chwaraeon bob-tywydd llif-oleuedig
- Cyrtiau hoci, rhwydi criced a chyrtiau tenis dan do
- Wal ddringo (clog-glai)
Mae’r ystafelloedd ffitrwydd yn cynnwys offer cyfrifiadurol diweddaraf “Technogym” sy’n darparu ymarferion a hyfforddwr ffitrwydd personol cyfrifiadurol wedi eu teilwra ichi.
Hefyd, mae’r Ganolfan Chwaraeon yn rhoi mynediad i dros 40 erw o feysydd chwaraeon o fri rhyngwladol, 12 cwrt tenis, llain criced o’r radd flaenaf a thŷ cychod gydag adnoddau ar gyfer chwaraeon dŵr o bob math.
Mae’r rhaglen eang a staff llwyr gymwysedig yn golygu bod myfyrwyr yn gallu manteisio gydol y flwyddyn ar gyfleoedd cyfarwydd neu newydd i ymarfer corff.