Amdanom Ni

Mae'r Swyddfa Cynadleddau yn marchnata ac yn gwerthu i holl gwsmeriaid busnes preswyl allanol y Brifysgol, ac yn darparu gwasanaeth cynadledda a lletygarwch hanfodol i'n cwsmeriaid mewnol yn ogystal - adrannau academaidd a gwasanaethau. Ymhlith yr hyn a gynigir gennym y mae cynadleddau, cyfarfodydd, digwyddiadau, teithiau grwp, llety ar gyfer teuluoedd a grwpiau ar wyliau, gwaith maes ar gyfer ysgolion a cholegau a llety dros nos am bris rhesymol.

Mae'r gweithgareddau masnachol y mae'r Swyddfa Cynadleddau yn ymgymryd â nhw yn gyfraniad gwerthfawr i farchnata sefydliadol, yn cynnal gweithlu sylweddol o ran maint drwy gydol y flwyddyn, ac yn gyfraniad ariannol i gronfeydd adrannol. Mae hyn oll yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n myfyrwyr. Yn dilyn newidiadau sylweddol, mae'r adran wedi ennill Gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl a Gwobr Safon Aur y Cynllun Cyfaill Croeso.

Mae ein tim yma i'ch helpu:

Julie Morgan - Rheolwr Gwerthiant Swyddfa Cynhadledd  jum14@aber.ac.uk ext. 1962
Annwen Gale - Cyd-drefnydd Cynhadledd awg@aber.ac.uk ext 1842
Siwan Griffiths - Cyd-drefnydd Cynhadledd sig@aber.ac.uk ext 8524
Joseph White - Cyd-drefnydd Cynhadledd jow46@aber.ac.uk ext 2913

Tourism Wales