Arlwyo ac Amser Hamdden

Llun o Adnoddau Amser Hamdden a'r CampwsBwyd, diod, chwaraeon ac adloniant o’r radd flaenaf... mae rhywbeth at ddant pawb ar ein campws prysur a chyfeillgar.

Y Celfyddydau ac Adloniant

Gyda thros 500,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn, mae Canolfan y Celfyddydau ar y campws yn cynnig amrywiaeth eang ac amrywiol o ddigwyddiadau. Mae’r arlwy’n cynnwys dramâu, cerddoriaeth glasurol, dawns, cerddoriaeth o bedwar ban byd, ffilmiau, sioeau i blant, darlleniadau llên, bandiau byw, opera a chomedi. Mae Canolfan y Celfyddydau yn un o’r ychydig fannau yng Nghymru a ddyfarnwyd gan Gyngor y Celfyddydau yn Ganolfan Rhagoriaeth. Mae hefyd yn cynnig rhaglen ardderchog o arddangosfeydd, siop lyfrau, siop anrhegion, bar wedi’i drwyddedu’n llawn a chaffis gyda golygfeydd hyfryd.

Bwyd a Diod

Mae Bwyty TaMed Da ym Mhenbryn a Bwyty Cegin ym Mhantycelyn ar agor drwy gydol y flwyddyn ar gyfer brecwast, cinio a swper hunanwasanaeth blasus (edrychwch ar yr amseroedd agor trwy ymweld â’r ddolen 'Gwasanaeth Croeso').

Gyda chynnyrch ffres lleol ac o ffermydd y Brifysgol, gallwn gynnig prydau iach a blasus bob dydd. Gall ymwelwyr archebu lle yn ein bwytai ymlaen llaw neu ddefnyddio ein bwytai pan ddymunant a gallwn arlwyo ar gyfer gofynion dietegol a dewisiadau unigol.

Os hoffech drefnu gweithgareddau arbennig ar y campws, gall ein tîm cynadleddau gynnig cymorth a chyngor wrth lunio’ch digwyddiad arbennig – gan gynnig yr hyblygrwydd a’r dewis mwyaf i chi.

Adnoddau Chwaraeon

Mae gennym ddewis ardderchog o adnoddau Chwaraeon yma ar y Campws ac mae’n werth i chi gymryd hoe i fwynhau ein Canolfan Chwaraeon. Mae gennym bwll nofio 25 metr dan do wedi ei wresogi sydd ar gael ar gyfer nofio cyffredinol ar adegau penodol yn ystod yr wythnos, felly peidiwch ag anghofio rhoi’r wisg nofio yn y bag!

Mae ein campfa yn cynnwys y peiriannau diweddaraf ac mae’n eithriadol o boblogaidd. Mae dewis cynhwysfawr o offer yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau ar gyfer hyfforddi ac ymarfer, ac i’ch cynorthwyo, mae staff hyfforddedig a fydd yn barod  i’ch helpu i gyrraedd y nod wrth law bob amser.
Ar gyfer grwpiau mwy, gellir archebu ein cawell chwaraeon, ein caeau glaswellt neu’n caeau artiffisial sydd â llifoleuadau ar gyfer defnydd personol.

Rydym yn cynnig pecynnau disgownt ardderchog i ymwelwyr sy’n aros ar y campws, cysylltwch â’r Swyddfa Gynadleddau neu’n uniongyrchol â’r Ganolfan Chwaraeon.
Tourism Wales