Cynadleddau, Chyfarfodydd, Derbyniadau a Digwyddiadau
Rydym yn cynnig adnoddau ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd mewn lleoliad rhagorol ar lannau Bae Ceredigion.Pam dewis Aberystwyth?
Lleoliad ArbennigMae Prifysgol Aberystwyth mewn lle canolog rhwng y gogledd a'r de. Mae digonedd o le parcio am ddim ar y safle. Dyma'r dewis perffaith i gynadleddau undydd neu gyfarfodydd preswyl ar gyfer Cymru gyfan.
Ar gael trwy'r flwyddyn
Mae cyfleusterau gwych ar gyfer cyfarfodydd a lletygarwch ar gael trwy'r flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, bob diwrnod o'r wythnos. Gallwch ddefnyddio ein 300 o ystafelloedd gwely en suite i aros y noson neu ddewis helaeth o ystafelloedd safonol ar y campws am brisiau cystadleuol y tu allan i dymhorau'r brifysgol. Ar adegau eraill gallwn gyd-drefnu llety mewn gwestai lleol i'ch cynadleddwyr unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae hyn yn rhoi dewis helaeth o ddyddiadau ichi ar gyfer eich cynhadledd breswyl.
Adnoddau o safon uchel
Llu o ystafelloedd cyfarfod sy'n amrywio o ran maint a naws, o gyfarfodydd bychain iawn hyd at rai sy'n dal 1,200 o bobl! Yn ogystal - adnoddau clyweled o'r radd flaenaf, gan gynnwys taflunydd cyfrifiadurol sgrin fawr - beth bynnag yw'r maint, mae gennym yr adnoddau addas!
Trefnwyr cynadleddau proffesiynol
Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol sy'n trefnu cynadleddau ar gael i'ch helpu wrth gynllunio a'ch tywys trwy holl anghenion rheoli gweithgareddau os oes angen. Mae hyn yn eich gadael yn rhydd i drefnu'ch rhaglen yn hyderus.
Naws Aberystwyth
Mae swyddfeydd addysg a gweinyddiaeth amryw sefydliadau wedi eu lleoli yn Aberystwyth. Dyma 'Brifddinas Arall Cymru', sy'n cynnwys cyfuniad cyffrous o Gymreictod Ceredigion a bywyd rhyngwladol na cheir ond mewn tref brifysgol fechan fel Aber.
Fwy o Wybodaeth:
Cyfraddau:



