Adnoddau i Gyfarfodydd
Cyfleusterau Clyweled
Mae cyfleusterau clyweled gwych ar gael yn gefn i hyn - o uwchdaflunyddion i gyfleusterau sgrin fawr cyfrifiadur a fideo, a mynediad i'r rhyngrwyd. Gallwn roi cymorth technegol a'r hawl i ddefnyddio ystafelloedd cyfrifiaduron er mwyn i unigolion gael profiad 'byw'. Gellir darparu cyfleusterau cyfieithu-ar-y-pryd yn y rhan fwyaf o ystafelloedd.
Arlwyo
Coginio o luniaeth ysgafn i wleddoedd cyfan, mae gennym enw da am wasanaeth a safon. Gall ein neuaddau bwyta gynnig bwffe i hyd at 300, neu wasanaeth mwy ffurfiol mewn ystafelloedd cinio preifat i hyd at 200 o bobl. Gyda bwydydd lleol ffres, gallwn gynnig prydau iach a blasus bob dydd lle y gall cynadleddwyr archebu prydau ymlaen llaw neu ddefnyddio ein bwytai pan ddymunant.
Trefnwyr Cynadleddau Proffesiynol
Mae ein tîm trefnu cynadleddau yn arbenigo ar helpu i drefnu ymweliadau a chynnig pob math o gymorth. Mae modd inni drefnu gweithgareddau cyfan. Ein 'siop-un-stop' yw hon. Gallwn gynnig:
- arweinwyr proffesiynol a thywyswyr i'ch helpu i hwyluso'ch gwaith cofrestru
- rhaglenni a theithiau cymdeithasol
- sgyrsiau a darlithiau gwadd gan ein harbenigwyr ein hunain
- trefnu cludiant yn ystod y cwrs, ac o'r cartref i'r man cyfarfod
- dylunio llenyddiaeth y gweithgareddau, gan gynnwys ffurflenni archebu
- cynhyrchu gwybodaeth i gynadleddwyr unigol
- gwasanaeth rheoli ariannol
- cysylltu â gwasanaethau mewnol ac allanol



