Archebu Cynhadledd

Defnyddiwch y wybodaeth a’r dolenni isod i benderfynu beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cynhadledd/digwyddiad. Yna llenwch y ffurflen ymholiadau ar waelod y dudalen gan nodi eich blaenoriaethau o ran manylion a dewisiadau. Mae’r rhain yn amodol ar beth sydd ar gael, ond unwaith y bydd eich ymholiad wedi dod i law, bydd rhywun yn cysylltu â chi i ddweud beth sydd ar gael.

 

Ystafelloedd Cynadledda

Isod ceir y dewisiadau ar gyfer yr ystafelloedd cynadledda. Cliciwch ar y dolenni isod i weld manylion yr ystafelloedd a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio faint o bobl y gall pob ystafell ei dal a’r rhestr brisiau.

Canolfan Gynadledda MedRus - Dewis o 4 Ystafell

Y Ganolfan Ddelweddu - 1 Ystafell Bwrdd Dethol

Ystafelloedd Gogerddan - Dewis o 2 ystafell (wedi’i eu lleoli ychydig filltiroedd o’n prif gampws)

Ystafelloedd Pantycelyn - Dewis o 2 ystafell

 

Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen ymholiadau neu’n archebu ystafell gall y modd yr hoffech osod yr ystafell newid cyfanswm y bobl y gall yr ystafell honno ei dal.

Adrannau Mewnol - ni fydd raid talu am archebu’r ystafell os ydych yn archebu arlwy, fel arall byddwn yn codi’r prisiau isod:

Medrus - £50.00 Hanner Diwrnod / £100.00 Diwrnod Llawn

Pob ystafell arall - £15.00 Hanner Diwrnod / £30.00 Diwrnod Llawn

Archebion allanol - Gwiriwch gostau’r ystafelloedd oherwydd eu bod yn amrywio yn ôl archebion am ddiwrnod llawn/hanner diwrnod ac yn ôl ystafell.

 

Adnoddau a Chymorth

Mae Adnoddau a Chymorth ar gael, o uwchdaflunyddion i gyfrifiaduron sgrin fawr ac adnoddau taflunio fideo a mynediad i’r rhyngrwyd. Gallwn roi cymorth technegol i chi a mynediad i ystafelloedd cyfrifiadurol aml-derfynell ar gyfer dysgu unigol ymarferol. Gellir defnyddio adnoddau cyfieithu ar y pryd yn y rhan fwyaf o’r ystafelloedd cyfarfod. Mae ein tîm cynadleddau yn brofiadol iawn am helpu i drefnu eich ymweliad a chynnig pob math o gymorth gan gynnwys gwasanaeth rheoli digwyddiad arbennig.

 

Arlwyo

Bwydlenni Croeso- Cynigir gwasanaeth arlwyo yn yr holl ystafelloedd cynadledda. Gallwch ddewis eich arlwy o’r ddewislen hon. Pan fyddwch yn archebu gallwch ddewis amser ar gyfer eich arlwy.

 

Ymholiadau

Llenwch y ffurflen ymholiadau isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi beth sydd ar gael. Mae’r ffurflen hon yn eich galluogi i nodi eich dewis o ystafell, manylion arlwyo a’r adnoddau a chymorth fydd eu hangen arnoch. Gallwch hefyd ddewis sut yr hoffech i ni gysylltu â chi.

Ffurflen Ymholiadau ynghylch Cynhadledd

 

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymholiad,

Y Swyddfa Gynadleddau