Ystafelloedd Cyfarfod

Ymfalchïwn yn ansawdd ac amrywiaeth ein hadnoddau i gyfarfodydd. Cewch ddewis o ystafelloedd arbennig ac ystafelloedd i gyfarfodydd llawn a grwpiau bychain mewn cyfuniad o loriau gwastad neu ar oleddf, seddau sefydlog neu hyblyg, cynorthwyon technoleg uchel neu isel, naws ffurfiol neu anffurfiol.
I gyfarfodydd llai mae ein hystafelloedd seminar yn dal hyd at 50 o bobl, ac ystafelloedd darlithio ar oleddf yn dal hyd at 350 o bobl. Gerllaw mae llecynnau gwastad sy'n ddelfrydol i arddangosfeydd neu bosteri cysylltiedig.

Ystafelloedd Cynadledda ar gael trwy gydol y Flwyddyn

Cyfleusterau Ychwanegol
Mae gan y Brifysgol un o'r neuaddau mwyaf yng Nghymru - mae ein Neuadd Fawr yn dal 1,200 o bobl yn gwbl gyfforddus. Mae'r Neuadd yn rhan o gasgliad o ystafelloedd cyfarfod. Yn ddiweddar gwariwyd £3.6 miliwn ar ailadeiladu Canolfan y Celfyddydau ar y campws gan greu man cyfarfod digymar yng Nghymru.

Ymholiadau:

Tourism Wales