Derbyniadau a Digwyddiadau
O dderbyniadau busnes i nosweithiau elusennol i wleddoedd priodas, gallai Prifysgol Aberystwyth fod yn ddewis delfrydol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.Gall ein tîm arlwyo medrus baratoi gwleddoedd gwych ar gyfer hyd at 192 o westeion yn ein hystafell fwyta fawr sydd â golygfeydd o Aberystwyth. Ar gyfer digwyddiadau llai ffurfiol gallwch hefyd ddewis o blith amrywiaeth eang o brydaubuffet blasus.
Yn ystod gwyliau'r Brifysgol gallwn hefyd ddarparu neu gydlynu cyfleusterau ychwanegol megis barrau a disgos ar eich cyfer chi'n unig neu lety dros nos. Gallwn hefyd gynnig digonedd o le i barcio ar y campws felly ni fydd angen i chi chwilio'n ddyfal am rywle i adael eich car!
Ystafelloedd Cyfarfod
Ymholiadau:
Am fwy o wybodaeth neu er mwyn archebu lle, cysylltwch â ni.



