Cynadleddau, Digwyddiadau a Chyfleusterau

Os ydych chi’n cynnal cynhadledd fawr neu gyfarfod bwrdd bach; angen llety i grŵp neu wyliau byr dros yr haf; cynllunio diwrnod arbennig neu ddigwyddiad cymdeithasol - mae tîm DigwyddiadauAber yma i’ch helpu.

Dyma ein ‘siop un stop’ ar gyfer eich holl ofynion. Gall ein tîm o drefnwyr digwyddiadau proffesiynol a phrofiadol ofalu am yr holl fanylion bach, gan roi’r amser a’r cyfle i chi ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu ar raddfa nad yw ar gael mewn lleoliadau eraill yn yr ardal. Mae gennym amrywiaeth helaeth o leoliadau, cyfleusterau a gwasanaethau hyblyg sy’n addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau, felly rydym yn hyderus y gallwn ddiwallu eich anghenion!

Adnoddau a Gwasanaethau

  • Cynadleddau, Digwyddiadau Busnes a Chorfforaethol,
  • Llety i unigolion, grwpiau a llety gwyliau,
  • Bwyd a Diod,
  • Ymweliadau addysgol ac ysgolion,
  • Digwyddiadau a thwrnameintiau chwaraeon.

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni trwy e-bost neu defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau

Gweler isod y gofod sydd gennym ar gyfer Cynadleddau a Digwyddiadau  

Ystafelloedd Cynadledda Medrus

Canolfan Gynadleddau MedRus

Cyfres o bum ystafell olau ac awyrog, sy’n rhoi teimlad proffesiynol ond cyfoes, ynghyd ag offer clyweled a siartiau troi. Bydd ein staff hyfforddedig yn gwasanaethu eich cyfarfod ac yn darparu’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch. Mae Medrus wedi’i leoli ym Mhenbryn, Campws Penglais.

Ystafelloedd

MedRus MedRus 1 MedRus 2 MedRus 3 MedRus 4
Seddau 200 60  12 50 50
Cynllun eistedd hyblyg

Ystafell Bwrdd

Llwyfan Cludadwy        
Darllenfa        
Siart troi

Offer clyweled

Cymorth technegol clyweled

Mynediad i gadair olwyn

Maes Parcio gyda lleoedd i bobl anabl

Nid yw’r prisiau’n cynnwys TAW

AccessAble - Cliciwch i gael Gwybodaeth am Hygyrchedd

Canolfan y Celfyddydau

Gall Canolfan y Celfyddydau ddarparu ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau hyd at 980 o bobl. Mae’r sinema yn ddelfrydol ar gyfer cynhadledd hyd at 112 o bobl. Neu, am digwyddiadau mwy, mae’r Theatr yn cymryd hyd at 295 o bobl ac mae’r Neuadd Fawr yn cymryd 980 o bobl. Gellir trefnu ystafelloedd ychwanegol yn ogystal ag offer taflunio ac arlwyaeth.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth cliciwch yma: http://www.aberystwythartscentre.co.uk

Ystafell

Cynllun Eistedd

Niferoedd

Prisiau Cychwynol

Neuadd Fawr

Hyblyg

980

£950.00

Theatr

Seddi Sefydlog

295

£750.00

Stiwdio

Hyblyg

80

£150.00

Sinema

Seddi Sefydlog

112

£300.00

Ystafelledd

ychwanegol

Hyblyg

50

£20 y/a

 

AccessAble - Cliciwch i gael Gwybodaeth am Hygyrchedd

Undeb y Myfyrwyr

Mae adeilad yr Undeb yn cynnwys tair ystafell; pob un â’i chyfleusterau, ei hawyrgylch a’i maint unigryw ei hun, ynghyd â bariau. Mae gan yr Undeb brofiad helaeth o drefnu a chynnal amrywiaeth o brosiectau, o weithdai a sioeau talent i bartïon staff a digwyddiadau cerddoriaeth gyda chynulleidfa lawn.

Ystafell

Cynllun Eistedd

Niferoedd

Yr Undeb

Hyblyg

500+

Prif Ystafell

Hyblyg

200

Ty Pictiwrs

Hyblyg

95

Bar Cwtch

Hyblyg

100

 

AccessAble - Cliciwch i gael Gwybodaeth am Hygyrchedd

Ystafelloedd ac Adnoddau Academaidd

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi’n helaeth ym mhob elfen o’i darpariaeth. Gwariwyd dros £8m yn uwchraddio’r mannau addysgu i greu amgylcheddau dysgu sy’n ennyn diddordeb myfyrwyr ac sy’n manteisio ar y dechnoleg aml-gyfrwng ddiweddaraf ar gyfer addysgu.

Ystafell

Cynllun Eistedd

Niferoedd

Prisiau Cychwynol

Neuadd Ddarlithio Academaidd

Rhesi Sefydlog

100+

£200

Neuadd Ddarlithio Academaidd

Rhesi Sefydlog

Hyd at 100

£75

Ystafell Seminar Academaidd

Sefydlog

Hyd at 50

£75

Ystafell Gyfrifiaduron Academaidd

Sefydlog

Hyd at 50

£150

Labordy Academaidd

Sefydlog

Hyd at 50

£150

  

VetHub1

VETHUB1

Mae VETHUB1 yn clwstwr Arloesi gwerth £4.2m gyda chefnogaeth yr UE sy'n darparu Cyfleusterau Diogel i astudio Pathogenau mewn Pobl ac Anifeiliaid. Wedi'i lleoli yng nghanol campws Prifysgol Aberystwyth gyda mynediad i arbenigedd academaidd sy’n arwain y byd ac offer labordy o'r radd flaenaf.

  • Labordai Ynysig Categori 3 a 2
  • Mannau cyfarfod, swyddfa a chydeithio

Os hoffech dderbyn rhag o o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â canolfanmilfeddygol-1@aber.ac.uk neu https://vethub1.co.uk/