Llety ar gyfer yr Arholiadau Atodol

Cynigir llety hunanarlwyo yn Neuadd Cwrt Mawr trwy gydol cyfnod yr Arholiadau Atodol.

Mae’r ystafelloedd ar gael o 20 Awst i 1 Medi.

Pris

Fesul person/fesul noson - £18

Llenwch y ffurflen archebu isod a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen, gan roi cymaint o rybudd â phosibl i osgoi siom. Mae’n rhaid talu o flaen llaw.

Ffurflen Archebu

Gwybodaeth am arholiadau ailsefyll yr haf - i gael gwybodaeth am yr arholiadau ailsefyll a ffioedd.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Dymuniadau Gorau,

Y Swyddfa Gynadleddau