Llety Ymwelwyr
Efallai nad ydych yn meddwl am Brifysgol pan fyddwch yn meddwl am ymweld ag Aberystwyth neu â Chanolbarth Cymru, ond mae gennym ddewis ardderchog o lety a chyfraddau cystadleuol iawn rhwng canol mis Mehefin a chanol mis Medi.
Os ydych yn ymweld â ffrindiau neu deulu neu eisiau hoe fach, gallwn gynnig ystafelloedd sengl en-suite am £24.50 y noson yn unig, neu beth am ystyried ein fflatiau hunanarlwyo sy’n ddelfrydol i grwpiau a theuluoedd a gallant gael eu harchebu’n arbennig gyda hyd at 8 i 10 o ystafelloedd gwely, cegin/ystafell fwyta a naill ai en-suite neu ystafell ymolchi a rennir. Y mwyaf o bobl sy’n aros a’r hiraf yw’r gwyliau, y rhataf fydd y pris!
Cewch gyfle i fwynhau holl adnoddau’r Campws, gyda Bwyty sy’n gweini brecwast, cinio, swper a byrbrydau, cyfle i fynd i weld sioe neu edrych yn siopau Canolfan y Celfyddydau, neu gallwch ymlacio yn ein Hadnodd Chwaraeon sydd a phwll nofio dan do. Mae gennym ddigonedd o leoedd parcio ac rydym dafliad carreg o ganol tref Aberystwyth a dim ond taith fer yn y car o rai o’r atyniadau gwych yn yr ardal, gan gynnwys twyni tywod Traeth Ynylas. Gallwch hefyd gerdded i’r Llyfrgell Genedlaethol i edrych ar hanes eich teulu.
Cofiwch y gallwch archebu i un neu i bawb ohonoch. Cysylltwch â ni heddiw i weld beth sydd ar gael.
Rhagor o wybodaeth:



