Gwybodaeth ar gyfer Cyrraedd

Ar ôl i chi archebu llety byddwch yn cael cadarnhad drwy e-bost neu drwy’r post

Gallwch fynd i’r derbynfeydd o 3:00yp ymlaen a gallwch nôl eich allweddi ar yr amseroedd canlynol ac yn y mannau canlynol:

 

Diwrnodau’r Wythnos

Derbynfa Cwrt Mawr: 3:00yp - 5:30yp

Prif Dderbynfa’r Campws: Ar ôl 5:30yp

 

Penwythnosau

Prif Dderbynfa’r Campws: Unrhyw bryd

 

Campus Plan - i gael llun mwy manwl o’r campws

Map & Receptions - i gael golwg agosach ar y map uchod

 

> Os ydych yn cyrraedd ar drên, mae gorsaf dacsis ger y platfform os hoffech deithio i’r campws

> Os oes arnoch angen defnyddio Wi-Fi gofynnwch am fanylion wrth nôl eich allweddi

>  Byddwch hefyd yn cael trwydded barcio yn eich pecyn croesawu neu pan fyddwch yn nôl eich allweddi

Neuaddau Rosser

 

Bydd y llety hunanarlwyo yn Rosser yn cynnwys y canlynol pan fydd y gwesteion yn cyrraedd:

  • Gwely wedi’i wneud gydag un tywel bath a sebon.
  • Pecyn gwybodaeth ym mhob cegin.
  • Papur toiled yn yr ystafelloedd en-suite (Rosser) a phob ystafell ymolchi.
  • Ceginau sydd â photiau, padelli, cyllyll a ffyrc, cwpanau, platiau a llestri.
  • Te/coffi/siwgr/potiau llaeth bach ym mhob cegin.
  • Hylif golchi llestri ac 1 lliain sychu llestri.