Ysgolion Aber

Ymweliadau Addysgol ac Ysgolion

Croeso i Brifysgol Aberystwyth – y dewis perffaith ar gyfer ymweliadau addysgol, gwaith maes a theithiau hamdden.

Mae’r Swyddfa Gynadleddau yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi ymweliadau addysgol a gweithgareddau gwaith maes:

  • Cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf – darlithfeydd, theatrau, ystafelloedd seminar a labordai
  • Pecynnau llety a arlwyo.
  • Lleoliadau gwaith maes delfrydol ar gyfer Daearyddiaeth, Gwyddorau Daear, Ecoleg a Bioleg. Gweler ein canllaw astudio gwaith maes yn Astudiaethau Maes. Gallwn gynnig cyfarpar gwaith maes hefyd.
  • Cyfleusterau delfrydol ar gyfer y Gymraeg, Celf, Hanes a’r Celfyddydau Perfformio. Gweler ein cyfleusterau a’n sefydliadau partner yn Canllaw astudio y Dyniaethau .
  • Cyfleoedd gwych i bobl ifanc wneud ffrindiau a chael hwyl wrth ddysgu.

Ffurflen Archeb Ysgolion

Gwelwch hefyd ein Telerau ac Amodau