Gwyliau Haf

Ydych chi’n trefnu gwyliau yng Ngheredigion yr haf hwn?

  • Yn swatio rhwng dau barc cenedlaethol – Eryri i’r Gogledd ac Arfordir Penfro i’r De
  • Morlin arbennig a llwybr arfordirol ar hyd Bae Ceredigion, ardal gadwraeth forol arbennig
  • Mynyddoedd y Cambria gyda llwybrau dramatig i gerdded a beicio mynydd
  • Cartref i Farcutiaid Coch a phrosiect Gweilch y Dyfi
  • Yn llawn hanes a diwylliant Cymreig
  • Cartref i brifddinas diwylliant Cymru, Aberystwyth – man geni addysg uwch yng Nghymru, cartref hefyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau

Ystafelloedd en-suite yn Fferm Penglais

 
Fflatiau gyda ystafelloedd en-suite yn Fferm Penglais – ar gael am isafswm o 3 noson

Mae pob fflat yn cynnwys 6 neu 8 ystafell wely en-suite gyda chegin gyfforddus sydd â’r holl ddeunydd sydd ei angen arnoch gan gynnwys llestri, deunyddiau coginio, meicrodon a pheiriant golchi llestri.

Mae gan yr ystafelloedd wely dwbwl, digon o lefydd storio a chawod fawr ac mae dillad gwely a thywel yn cael eu darparu.

Mae’r fflatiau yma dros 3 llawr; nodwch os gwelwch yn dda nad oes lifft, felly nodwch yn glir os ydych chi angen fflat llawr gwaelod.

Neu cysylltwch gyda’r Swyddfa Gynadleddau am fwy o wybodaeth ar (01970 621960) neu ar e-bost.

Fferm Penglais 

3 Noson

4 Noson

5 Noson

6 Noson

7 Noson

6 person

 £567

 £756

£945

£1134

 £1058.40

8 person

 £756

 £1008

£1,260

£1,512

 £1,411.20

Cyf person y noson

£31.50

£31.50

£31.50

£31.50

£25.20

Am fwy o wybodaeth neu er mwyn holi am ddyddiadau, ebostiwch conferences@aber.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01970 621960.

Mae fflatiau ar gael i aros am dair noson neu fwy rhwng 5 Gorffennaf ac 11 Medi 2021. Rhaid i ymwelwyr fod dros 18 oed neu yng nghwmni oedolyn cyfrifol os ydynt o dan 18 oed.

Er mwyn archebu lle, cwblhewch y ffurflen isod a’i yrru i conferences@aber.ac.uk;