Teithiau Grŵp a Gwyliau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd am ymweliadau a gwyliau i grwpiau mewn lleoliad gwefreiddiol ar lannau Bae Ceredigion mewn amgylchedd ymlaciol 5 munud yn unig o ganol tref Aberystwyth. Ychydig yn unig o leoedd yng Nghanolbarth Cymru sy’n gallu denu grwpiau o bob maint a math, ac felly mae Aberystwyth yn ddewis ardderchog ar gyfer teithiau ac ymweliadau. Mae’r llety ar y campws, sydd â golygfeydd hyfryd o Fae Ceredigion, yn cynnig cyfraddau cystadleuol, ystafelloedd cyfforddus, awyrgylch cyfeillgar ac amrywiaeth eang o adnoddau i bawb.

Mae’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau, mawr neu fach, a cheir dewis o lety safonol neu en-suite mewn neuaddau traddodiadol neu fflatiau hunanarlwyo modern ar gampws tirlun sydd hefyd ag adnoddau chwaraeon eang, lleoliad adloniant sydd wedi ennill gwobrau a dewis o leoedd i fwyta ac yfed.
 
Cefn gwlad toreithiog, cadwyni o fynyddoedd mawreddog, coedwigoedd hynafol, traethau tywod a llwybrau arfordirol gwefreiddiol – ceir amrywiaeth o gyfleoedd yn y Canolbarth i bob mathau o grwpiau gan gynnwys cerddwyr, beicwyr, crwydrwyr, pysgotwyr, ymwelwyr neu bobl ar wyliau. Dewch i ymweld â’r rhan brydferth hon o’r wlad a byddwch yn sicr o fynd adref ag atgofion melys.

Fwy o Wybodaeth:

Cyfraddau:

  • Gwasanaeth a Prisiau
Tourism Wales