Aberystwyth a'r Ardal
Amdano Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref a sefydlwyd dros 700 mlynedd yn ôl. Bellach, dyma 'Galon Diwylliant Cymru' a chartref nifer o Gardis enwog. Yma fe gewch gyfuniad o'r hen a'r newydd, prom hyfryd, glanfa a Chraig Glais a'r Camera Obscura enwog.
Gallwch ymweld â nifer o lefydd:
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint lle cedwir nifer o drysorau llenyddol pennaf y Celtiaid
- Amgueddfa Ceredigion sydd â chasgliad da o arteffactau
- Rheilffordd Drydanol Craig Glais a fydd yn eich tywys i gopa Craig Glais a'r Camera Obscura
- Dewis gwych o orielau ac arddangosfeydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Ysgol Gelf y Brifysgol
- Rheilffordd Fach Stêm Dyffryn Rheidol (a fydd yn eich tywys i raeadrau gwych Pontarfynach)
- King Arthurs Labyrinth
Ceredigion a Bae Ceredigion
Mae Aberystwyth yn rhan o sir Ceredigion ac y mae tirlun a golygfeydd y sir hon yr un mor drawiadol â rhai o olygfeydd mwy enwog Cymru. Mae Mynyddoedd Pumlumon, a dyffrynnoedd Rheidol, Ystwyth ac Elan yn cynnig heddwch a thangnefedd, ac yn cynnig nifer o adnoddau ar gyfer chwaraeon awyr agored a mwynhad pur. Mae rhan helaeth o arfordir Ceredigion wedi ei dynodi yn Arfordir Treftadaeth, ac yn cynnwys y casgliad mwyaf yn y wlad o draethau sydd wedi ennill gwobrau mewn ardal gymharol fach.
Ac os hoffech fwy o ddewisiadau anarferol ar gyfer teithiau hanner diwrnod, fydd ddim rhaid ichi deithio llawer ymhellach:
- Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian
- Canolfan Ymwelwyr Trydan Dŵr E-on yng Nghwm Rheidol
- A Amgueddfa Mwyngloddio Plwm ac Arian yn Llywernog
- Mae'r Ganolfan Technoleg Amgen yn dangos technoleg sy'n sensitif i'r amgylchedd ac yn her i'r dyfodol! Mae'r ganolfan yn enwog oherwydd ei bod yn un o'r canolfannau ymchwil 'gwyrdd' cyntaf
- Gwarchodfa'r RSPB yn Ynyshir a Gwarchodfa Yhyshir
- Ystad Llanerchaeron, dan nawdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n cynnwys plas ysblennydd gan y pensaer Nash, a fferm fodel a gardd gaerog



