Adnoddau Dysgu a Adnoddau

Ymfalchïwn yn ansawdd ac amrywiaeth ein hadnoddau i gyfarfodydd. Cewch ddewis o ystafelloedd arbennig ac ystafelloedd i gyfarfodydd llawn a grwpiau bychain mewn cyfuniad o loriau gwastad neu ar oleddf, seddau sefydlog neu hyblyg.

Mae ein hystafelloedd seminar yn dal hyd at 50 o bobl, ac ystafelloedd darlithio ar oleddf yn dal hyd at 300 o bobl. Mae adnoddau clyweled gwych ar gael yn gefn i hyn, o uwchdaflunyddion i adnoddau taflunio fideo a sgrin fawr cyfrifiadur, a mynediad i’r rhyngrwyd.

Gallwn roi cymorth technegol a’r hawl i ddefnyddio ystafelloedd cyfrifiaduron er mwyn i unigolion gael profiad ‘byw’. Gellir darparu cyfleusterau cyfieithu-ar-y-pryd yn y rhan fwyaf o ystafelloedd.

Mae’r tirlun yn y rhan hon o Gymru gyda’r mwyaf trawiadol ym Mhrydain, ac o’r herwydd gallwn gynnig dewis diguro a fydd yn gweddu i anghenion eich cwrs maes i’r dim.

Mae ein tîm trefnu cynadleddau yn arbenigo ar helpu i drefnu ymweliadau a chynnig pob math o gymorth, gan gynnwys gwasanaeth rheoli digwyddiad arbennig.

Adnoddau

Offer Gwaith Maes i’w Llogi

Rydym yn cadw cyflenwad o offer gwaith maes defnyddiol y gallwch eu harchebu ymlaen llaw ar gyfer eich grŵp.
  • Mae'r eitemau yn cynnwys:
Tourism Wales