Cyfraddau a Dyddiadau

Rydym yn cynnig pecyn preswyl i ysgolion a cholegau yn ystod cyfnodau gwyliau’r Brifysgol:

25 Mehefin - 7 Medi 2012
Cynigir llety mewn ystafell sengl naill ai yn y neuaddau preswyl traddodiadol neu mewn fflatiau modern. Mae’r holl neuaddau ar y campws o fewn cyrraedd i’r bwyty, yr ystafelloedd cyfarfod a’r adnoddau hamdden.

Gallwch ddewis amrywiaeth o becynnau arlwyo neu gallwch ddewis hunanarlwyo yn ein fflatiau modern ar y campws sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol. Gallwn hefyd warantu mai dim ond eich grŵp chi fydd yn defnyddio’r cyfleusterau cyfarfod a’r cyfleusterau hamdden os mynnwch.

Mae gennym ddigonedd o feysydd parcio yn rhad ac am ddim i gerbydau preifat a bysiau ger y blociau llety.

Cyfraddau Addysgol Safonol 2012

GwasanaethCost
 Ystafell hunan-arlwyo  £13.50
 Ystafell hunan-arlwyo en-suite  £20.00
 Gwely a brecwast  £18.50
 Gwely a brecwast en-suite  £25.00
 Cinio hunanwasanaeth  £6.25
 Swper hunanwasaneth  £6.25
Cyfraddau heb DAWfesul diwrnod i gyrff cymwys yw’r rhain.

Ymholiadau ac Archebion

I gael syniad a oes llety ar gael a beth yw’r prisiau, cysylltwch â ni a byddwn yn barod i helpu.
Tourism Wales