Amdanom ni

Mae'r Brifysgol yn llwyr ymroddedig i flaenoriaethau'r Cyngor Cyllido a Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r rhwystrau (naill ai'n ffisegol, gymdeithasol, diwylliannol neu ariannol) i Addysg Uwch.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth draddodiad o ymrwymiad i ehangu mynediad ar gyfer grwpiau o bobl sydd wedi'n draddodiadol cael eu tan-gynrychioli yn y sector Addysg Uwch. Sefydlwyd y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol (y Swyddfa Addysg Barhaus bryd hynny) ym 1998 er mwyn datblygu ar un o amcanion sylfaenol y Brifysgol.  Mae cyrsiau a rhaglenni yn cefnogi pobl o bob oedran o ysgol Gynradd i oedolion yn y gymuned.

Beth allwn ni ei gynnig

  • Cyrsiau/gweithdai yn y gymuned
  • Trefnu ymweliadau i'r campws
  • Rhaglenni ar gyfer plant Ysgol Gynradd (blynyddoedd 5 a 6 mewn ysgolion lleol Cymunedau yn Gyntaf)
  • Gweithgareddau gwyddonol yn yr ysgol a sesiynau gwyddoniaeth i oedolion
  • Cefnogaeth i bobl sy'n gadael gofal a rhieni maeth
  • Cyngor/cyfarwyddiaeth a chyflwyniadau pe dymunir
  • Mentora "ffordd hyn" i israddedigion newydd

Edrychwch ar ein cylchlythyr drwy glicio 'Newyddion CWPSI 2012 - 2013' & 'Calendr CWPSI 2012 - 2013'.

Prifysgol Aberystwyth Cynllun Strategol 2012 - 2017

A gymerwyd o

Amcan 1 - Creu cyfleoedd

 “Credwn y dylai pawb sy’n gallu elwa ar addysg mewn prifysgol gael y cyfle i wneud hynny. Mae’n ein dull arloesol ni o ehangu’r drysau i addysg uwch yn cynnwys prosiectau i godi uchelgais ymhlith y rhai sy’n gadael ysgol; ein Prifysgol Haf yw’r enghraifft bwysicaf o’r rhain. Yn y cwrs preswyl hwnnw, cynigiwn raglen ddwys o Addysg Uwch i ddisgyblion sydd mewn perygl o beidio â gwneud cystal ag y gallent, er mwyn eu hannog i gydnabod eu potensial eu hunain. Er mwyn gallu cynnig cymorth rhagorol i fyfyrwyr, mae angen bod yn hyblyg ac agored er mwyn ymateb i anghenion yr unigolyn, ac fe fyddwn yn gweithio’n greadigol i sicrhau fframwaith ardderchog o gymorth i bob myfyriwr. Bydd hynny’n golygu y byddwn yn cynyddu ein cyfraddau cadw myfyrwyr a boddhad myfyrwyr, a thrwy hynny daliwn yn driw i’n cred bod pob un o’n myfyrwyr yn bwysig. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Aberystwyth yn estyn croeso i staff a myfyrwyr o bob cefndir ac rydym yn gweithio gydag amryw gyrff, gan gynnwys Stonewall, Ymddiriedolaeth Buttle, Athena SWAN a Chomisiynydd y Gymraeg, er mwyn hybu amrywioldeb a chyfle cyfartal i’n holl staff a myfyrwyr.”