Bydd Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach y Gogledd a’r Canolbarth yn gweithio mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf mewn partneriaeth â sefydliadau addysg Uwch a Phellach ac asiantaethau allanol ledled y Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin.  
Dyma brif amcanion y Bartneriaeth a gyfunwyd yn ddiweddar:

  • Datblygu Ehangu Mynediad i Addysg Uwch a sirchau bod mwy o bobl o grwpiau a chymunedau a dangynrychiolir yn gallu cyfranogi
  • Codi uchelgais a chreu cyfleoedd newydd i astudio
  • Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a gwella sgiliau, ni waeth beth yw'r oedran na'r cefndir
  • Hyrwyddo datblygu a darparu amrywiaeth o weithgareddau i helpu pobl i symud ymlaen o addysg bellach i addysg uwch yng Ngheredigion a Phowys.
             

Am y Canolbarth a’r Gorllewin, cysylltwch â Helen Thomas (Swyddog Cydlynu’r Ardal)