Dr Debra Croft

Photograph of Dr Debra Croft.

Rheolwr

BSc, MSc, PhD

Cyswllt

E-bost: dec@aber.ac.uk

Ffôn: 01970 622681

Cyfrifoldebau

Mae Debra yn gyfrifol am gyflawni prosiectau Ehangu Mynediad sefydliadol Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys gweithio gyda'r gymuned leol (yn arbennig ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru), mewn colegau ac ysgolion Cynradd ac Uwchradd, a rhoi cymorth mentora i fyfyrwyr yn y Brifysgol,  yn ogystal â bod y pwynt cyswllt ar gyfer rhai sy'n gadael gofal.

Proffil

Roedd Dr Debra Croft yn Gydgysylltydd Prosiectau y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol ers mis Ionawr 2007, cyn cymryd drosodd rôl Rheolwr yn 2011. Mae ganddi BSc (I, Anrhydedd) o Brifysgol Llundain (Royal Holloway) mewn Daeareg / Gwyddor yr Amgylchedd, MSc (rhagoriaeth) mewn Daeareg Cloddio (Caerwysg) a PhD mewn Gwyddorau Daear Fforensig (Llundain, 2003). Mae hi wedi cwblhau tystysgrif uwchraddedig Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch gyda’r Brifysgol Agored, ac mae hi’n aelod o’r Academi Addysg Uwch.