Cynllun Ffordd Hyn
Chwilio eich ffordd yn Aberystwyth
Cyngor cyfeillgar, cyfrinachol, un-i-un ar unrhyw agwedd o fywyd prifysgol.
Cynllun mentora i gynorthwyo israddedigion ar eu blwyddyn gyntaf i
- Ymgynefino â bywyd Prifysgol
- Cyrraedd eich potensial
- Cynllunio i'r dyfodol
- Gwneud y gorau o'ch amser yn y Brifysgol
Beth yw'r cynllun?
Gweinyddir Cynllun Ffordd Hyn gan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol. Mae'n gynllun cefnogaeth gan gymheiriaid i israddedigion y flwyddyn gyntaf (HND, Cyrsiau Sylfaen neu gyrsiau Israddedig) fel y gallant wneud y gorau o'u hamser yn y Brifysgol. Gall y mentor gynorthwyo gydag unrhyw agwedd ar fywyd prifysgol, boed yn academaidd, yn gymdeithasol neu'n ariannol. Gan weithredu fel cyswllt i'r gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y brifysgol, gall y mentor hefyd fod o gymorth i drefnu eich astudiaethau a'ch ysgogi.
Sut mae'n gweithio?
Yn y cynllun Ffordd Hyn, mae'r mentoriaid naill ai'n israddedigion ar eu 3edd blwyddyn neu yn uwchraddedgion. Maent wedi'u hyfforddi i ymdrin â materion sy'n wynebu myfyrwyr blwyddyn gyntaf - pob un ohonynt wedi bod yn fyfyrwyr blwyddyn 1af eu hunain yn ddiweddar! Bydd pob myfyriwr yn cael 3 chyfarfod un-i-un â'u mentor bob semester, a chefnogaeth e-bost rhwng y cyfarfodydd.
Pwy all elwa?
Gall unrhyw fyfyriwr blwyddyn gyntaf elwa o'r cynllun mentora! Gall mentora fod o gymorth i chi os ydych
- yn teimlo'n hiraethus neu angen mwy o amser i ymgartrefu
- angen cymorth gyda rheoli amser
- eisiau siarad â rhywun am eich cynnydd
- yn ansicr o'r hyn y gall PA ei gynnig
- o dan bwysau ychwanegol y tu allan i waith eich cwrs
Sylwer, er ein nod o sicrhau bod y cynllun ar gael i unrhyw fyfyriwr blwyddyn 1af , prin yw ein hadnoddau ar hyn o bryd ac felly rydym yn cynnig y gwasanaeth yn ôl yr angen.