Clwb Celf Ychwanegol ar ôl Ysgol
Mae’r Clwb Celf Ychwanegol ar ôl Ysgol ym Mhenglais wedi bod yn rhedeg ers mis Medi 2000. Bwriad y sesiynau yma, sy’n rhad ac am ddim, yw darparu’r cyfle i astudio yn rhan o griw cefnogol a chyfeillgar. Mae disgyblion o Benglais, Penweddig a Choleg Ceredigion yn mynychu’r sesiynau.
Mae’r cwrs yn hybu agwedd arbrofol a chreadigol tuag at fywluniadu gan osod pwyslais ar ddatblygu sgiliau arlunio sylfaenol a ffurfio meddwl beirniadol dilys. Mae’n rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr i weithio mewn amryw o gyfryngau gan gynnwys siarcol, pen ag inc, beiro, pastel a collage. Fe gyflwynir cyfeiriadau at hanes celf hefyd trwy astudio gwaith artistiaid unigol.
Yn ogystal â hyn, mae’r artistiaid ifanc yn cael y cyfle i fynychu sesiynau Celf ar y Sadwrn.