Ehangu Gorwelion
Eleni (2012/13) rydym yn dechrau Mathemateg wythnosol a sesiynau adolygu Saesneg ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 o Ysgol Penglais ac Ysgol Penweddig. Am ragor o wybodaeth am amseroedd a lleoliadau cliciwch yma.
Cyfle i wella’ch pynciau TGAU—Mathemateg, Saesneg, Cymraeg a Gwyddoniaeth.
Arhoswch mewn Prifysgol, ymunwch mewn gweithgareddau. Mae'r rhaglen hon wedi ei chynllunio i Flwyddyn 11 sydd ddim yn cyrraedd eu potensial llawn ar hyn o bryd i godi eu dyheadau. Mae wedi ei chynllunio i'ch cefnogi a rhoi cymorth i chi gyrraedd gradd C neu uwch yn y pynciau craidd Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth a Chymraeg. Mae mynychu'r cwrs hefyd yn galluogi chi i brofi bywyd Prifysgol.
Byddwn yn ystyried cynnig lle i chi os yw eich gradd disgwyliedig ar hyn o bryd yn llai na gradd C yn y pynciau craidd a restrir uchod. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r cwrs, dylech ofyn i Bennaeth Blwyddyn 11 yr ysgol a fedrwn nhw eich enwebu.
Mae Ehangu Gorwelion yn rhoi'r cyfle i chi:
- ganolbwyntio ar wella graddau eich pynciau craidd
- adolygu mewn awyrgylch anffurfiol o fewn dosbarthiadau bach o ran nifer
- fwynhau bwrlwm campws Prifysgol/Coleg
- ddysgu gan athrawon profiadol TGAU o Gymru benbaladr
- wneud ffrindiau newydd
- wneud eich gorau glas i gyrraedd eich gwir botensial
Ble?
Mae'r rhaglen ar gael Mhrifysgol Aberystwyth. Neilltuir lleoedd mewn ymgynghoriad â'ch ysgol.
Beth?
Cwrs adolygu preswyl yw Ehangu Gorwelion, lle bydd pob myfyriwr yn dewis astudio dau o'r pedwar pwnc craidd. Bydd y 12 awr o amser dysgu yn cael ei neilltuo i bob pwnc. Yn ogystal, ceir rhaglen lawn o weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon gyda'r nos.
Costau
Mae'r cwrs am DDIM!
Darperir y canlynol ar eich cyfer:
- Llyfrau adolygu a hen bapurau arholiad
- Papurau a beiros
- Pob pryd bwyd i'r myfyrwyr preswyl, cinio ganol dydd i'r rhai sy'n dod am y dydd
- Bws i'ch ysgol ac oddi yno (neu fan codi cyfleus arall)
- Rhaglenni cymdeithasol llawn
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dr Debra Croft Ffôn: 01970 621890 Ffacs: 01970 627410 E-bost: wpsi@aber.ac.uk