Prosiect Mentro Iaith

Prosiect Mentro Iaith

Mentro Iaith

Roedd Mentro Iaith yn fenter Ymgyrraedd yn Ehangach Cymru gyfan a arweinwiyd gan y W&MWWAP,ac oedd ar waith rhwng 2008 a 2010.  Roedd yn gyson gyda’r targed o gynyddu’r nifer o fyfyrwyr yn astudio elfen o’r cwrs neu’r cwrs cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y nod oedd rhoi cymorth i ddarpar fyfyrwyr i oresgyn rhwystrau go iawn a thybiannol oedd yn eu hatal rhag symud ymlaen at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.  Gwnaed hyn drwy roi’r cyfle i bobl ifanc gwrdd â mentoriaid oedd yn fyfyrwyr israddedig ac yn astudio elfen o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ogystal â chyfarfod ‘wyneb yn wyneb’, roedd gan bobl ifanc yr hawl i e-bostio unrhyw gwestiynau yn seiliedig ar fywyd Prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg i’w mentor penodol.

Mae’r Prosiect hwn bellach wedi dod i ben. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am addysg uwch cyfrwng Cymraeg cysylltwch â’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg trwy ymweld â'r we-dudalen http://www.aucyfrwngcymraeg.ac.uk/cy/, neu drwy glicio ar y dolenni ar ochr dde y dudalen.