Plant y Campws
Nod Plant y Campws yw rhoi hwb i ddyheadau a chyrhaeddiad plant ym Mlynyddoedd 5 a 6 trwy ddarparu rhaglen o weithgareddau ysgogol, o safon uchel am wythnos gyfan yn ystod gwyliau’r ysgol, a hynny am ddim.
Mae’r cynllun yn targedu plant sy’n byw yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Penparcau, Tregaron a’r ardaloedd mynyddig gwledig.
Mi fydd y gweithgareddau addysgiadol yn cynnwys amrywiaeth o brofiadau academaidd, diwyllianol a chorfforol, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Codi dyheadau
Lleolir rhan sylweddol o’r rhaglen ar gampws y Brifysgol, a bydd hyn yn galluogi plant i deimlo’n gysurus a chyfarwydd â’r amgylchedd. Bydd y rhaglen yn gwneud y defnydd o arweinwyr myfyrwyr a hyfforddwyd a fydd yn ymddwyn fel modelau rôl i’r plant.
Codi cyflawniad
Cynllunnir gweithgareddau i
- annog plant i ddysgu, drwy adeiladu ar eu hyder i gymryd rhan mewn profiadau a sialensau newydd,
- cyfuno dysgu a hwyl,
- datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu hanfodol
- cefnogi cwricwlwm yr ysgol mewn llythrennedd a rhifyddeg