Cylch Gwyddoniaeth

Cylch Gwyddoniaeth, Cam II
Mae’r rhaglen ‘Darparu Sgiliau ar gyfer y Dyfodol’ yn awyddus i weithio gydag ysgolion a cholegau yng Ngheredigion (gyda chymorth Rhwydwaith Llwybrau Dysgu 14-19), Powys, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Rydym hefyd yn gallu cynnig sesiynau byr ar gyfer grwpiau cymunedol eraill, pentrefi a rhwydweithiau dysgu mewn sawl maes sy’n ymwneud â gwyddoniaeth a thechnoleg.
I ysgolion, rydym yn ceisio ychwanegu at y cwricwlwm gwyddoniaeth yn ogystal â chynnig cymorth mewn meysydd eraill o fewn y cwricwlwm. A’r newyddion da yw bod hyn oll yn rhad ac am ddim i ysgolion lleol. Gallwn ddod â’n labordy teithiol i fuarth eich ysgol a darparu amrywiaeth o sesiynau ar wyddoniaeth, cynaliadwyedd, cadwraeth a phynciau eraill i gyd-fynd â’ch amserlen.
Mae’r labordy teithiol yn 5.5 medr o led ac 17 medr o hyd (gan gynnwys y ramp mynediad). Mae ganddo eneradur allanol i gynhyrchu trydan neu, os yw wedi ei leoli’n agos at adeiladau’r ysgol, gellir ei gysylltu â system drydan yr ysgol – a allai fod yn fwy diogel a llai swnllyd. Mae’r labordy yn ddigon mawr i dderbyn rhwng 14 ac 16 o ddisgyblion ar gyfer bob sesiwn.
Gallwch ddewis rhai o’r sesiynau canlynol:
- Cadwraeth – yn seiliedig ar astudiaeth o achos o wrthdaro yn ymwneud â defnyddio tir
- Ynni adnewyddadwy – arolwg o’r wyddoniaeth sydd y tu ôl i amryfal systemau (yn cynnwys modelau)
- Daeareg elfennol – gan gynnwys enghreifftiau o greigiau
- Gwyddoniaeth fforensig – defnyddio gwyddoniaeth i ymladd â throseddu (amryfal agweddau)
- Yr wyddoniaeth sy’n sail i Iaith y Corff a mynegiant dieiriau (defnyddiol ar gyfer myfyrwyr hŷn sy’n paratoi ar gyfer cyfweliadau ayyb.)
- Sgyrsiau ar ‘Pam mynd i Brifysgol?’ - sut y mae’n gweithio, pa gyrsiau y medrwch eu gwneud, sut i gael rhagor o wybodaeth ayyb.
- Sesiynau sy’n darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr mewn meysydd gwyddonol arbennig o fewn y cwricwlwm (e.e. dadansoddiadau DNA ac ‘olion bysedd’ genetig).
- Byddwn yn barod iawn ystyried unrhyw awgrymiadau eraill!!
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Debra Croft ar 01970 621890 neu drwy e-bost: wpsi@aber.ac.uk
neu Roger Morel 01970 62 8604 rgm@aber.ac.uk
'Evolution Megalab'
Mae'r Prosiect cyffrous hwn, a arweinir gan y Brifysgol Agored ac sy'n canolbwyntio ar ymchwil i ysglyfaethu, newid yn yr hinsawdd a newid esblygiadol, wedi'i lansio ym mlwyddyn deucanmlwyddiant Darwin - ac mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod wedi gallu darparu'r wefan a'r taflenni gwaith i bobl yn Gymraeg!
Cylch Gwyddoniaeth, Cam I
Yn wreiddiol, bu’r Cylch Gwyddoniaeth yn rhedeg o Chwefror 2005 i Chwefror 2008, ac yn gweithio gydag oedolion yng Ngheredigion nad oedd, fel rheol, wedi derbyn unrhyw addysg wyddonol. Yn eu plith roedd:
- pobl ddi-waith neu a oedd yn chwilio am waith mewn meysydd megis cadwraeth, technoleg bwyd, ynni cynaliadwy neu iechyd
- pobl a oedd eisiau gwybod rhagor am bynciau dadleuol megis GM, ynni gwynt neu dechnoleg DNA
- y rheini a oedd eisiau deall yr addysg wyddonol a gâi eu plant yn yr ysgol yn well
- pobl roedd gwyddoniaeth yn newydd iddynt ac a oedd eisiau dysgu rhagor
- cymunedau neu grwpiau gwirfoddol a allai fod ar eu hennill o gael hyfforddiant gwyddonol
Noddwyd gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) - helpu i leihau’r bwlch rhwng rhanbarthau’r gymuned.