Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Bob blwyddyn ym mis Mawrth mae’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yn cynnal arddangosfa gwyddoniaeth ymarferol am ddim i nodi Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Nod yr arddangosfa yw
- cynnig profiad ymarferol o wyddoniaeth i ategu ac ehangu ar faes llafur gwyddoniaeth ysgolion
- darparu gweithgareddau gwyddonol i ysgogi a diddori disgyblion ysgol Blwyddyn 7 - 9
- bod ar gael i cyn gymaint o ysgolion uwchradd yng Ngheredigion ag y bo modd
- darparu amrywiaeth o weithgareddau i adlewyrchu gwahanol ddisgyblaethau gwyddonol
2013: 19 - 21 o Fawrth
Y thema ar gyfer 2012 fod "Dyfaus a darganfyddiad". Bydd cyfle i dysgyblion:
- Cymryd rhan mewn cystadleuaeth yn rhad ac am ddim
- Arddangosfeydd cyffrous
- Darganfod sut y gall yr adrannau gwyddoniaeth yma yn Aberystwyth eich difyrru a'ch addysgu gyda gwyddoniaeth gyffrous arloesol.
2012
Y thema ar gyfer 2012 yn Cyfleu Gwyddoniaeth oedd "Y Byd yn Symud". Roedd e'n cael ei gynnal o Dydd Mawrth 13 i Dydd Iau 15 Mawrth, yn y Gawell Chwaraeon ar Brif Gampws Aberystwyth (Penglais) gyda dros 1500 o ddisgyblion ysgol o bob cwr o Gymru ymweld.
2011
Y thema ar gyfer 2011 yn Cyfleu Gwyddoniaeth oedd 'Son am Wyddoniaeth". Roedd e'n cael ei gynnal o dydd Mawrth 15fed i dydd Iau 17 Mawrth, Yn y Gawell Chwaraeon ar Brif Gampws Aberystwyth (Penglais).
2010
Thema Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2010 oedd Gywddoniaeth Ryngweithiol 'Ein Daear Ni' a chaffodd ei gynnal ar 16, 17 a'r 18 o Fawrth yn Y Gawell Chwaraeon, Prif Gampws Aberystwyth.
2009
Thema Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2009 oedd "Popeth yn Newid" a chafodd ei gynnal ar 11eg a'r 12ed o Fawrth, yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth.
Roedd yna hefyd drafodaeth ar "Newidiadau mewn Gwyddoniaeth."
2008
Thema Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2008 oedd "Y Cwestiwn Mawr" ac roedd yn cynnwys ysgolion uwchradd mewn ardaloedd anghysbell o Geredigion, Powys a Gwynedd.
2007
Thema Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2007 oedd "O'r Ddaear i Anfeidroldeb" a bu ysgolion uwchradd mewn ardaloedd anghysbell o Geredigion, Powys a Gwynedd yn cymryd rhan ym Mhrifysgol Aberystwyth.