STEM- Estyn Allan Ehangu Mynediad y DU
Mae'r Rhaglen Genedlaethol Addysg Uwch STEM yn gynllun sydd wedi'i ariannu gan y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch yn Lloegr a Chymru. Mae'n Cefnogi sefydliadau addysgu uwch drwy annog archwiliad o ddulliau newydd o recriwtio myfyrwyr a darparu rhaglenni astudio o fewn disgyblaethau Gwyddoniaeth Technoleg, Pheirianneg a Mathemateg.
Mae Hefyd yn galluogi'r trosglwyddiad o arfer gorau ar draws y sector STEM addysg uwch, yn hwyluso derbyniad ehangach ac yn annog arloesedd.
Yn ddiweddar cynhyrchodd y 'Good Practice Guide' (Saesneg yn unig) sydd wedi'i seilio ar bedwar rhaglen beilot allweddol:
- Cemeg ar gyfer ein dyfodol
- Prosiect Perianneg Llundain
- Mwy o Raddedigion Mathemateg, ac
- Ysgogi Ffiseg
Ceir manylion yma.
Bu'r Ganolfan ar gyfer Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yn llwyddiannus wrth ennill dau grant gan y Gronfa Trosglwyddo Arfer Cydweithredol ar gyfer ymestyn dau gynllun a rhaglen beilot dros y flwyddyn ddiwethaf:
- Cystadleuaeth Sialens Mathemateg 2012
- Mathemateg Hwyl Sioeau Teithiol (Tymor Haf 2012)
- Hyfforddiant Allgymorth Ffiseg
- Mathemateg Ar ddiwrnod y Gwaith Tachwedd 2011
- Cystadleuaeth Sialens Mathemateg 2011
- Adroddiad Gwyddfan
Dyfyniad gan riant ar ôl yr ymweliad STEM
"Hoffwn eich llongyfarch ar ddigwyddiad ardderchog - roedd fy merch 14-oed yn gyffro i gyd wedyn, ac ni chewch ci well adborth na hynny!"