
Cynllun Ehangu Mynediad
Erthygl newyddion Graddio Prifysgol Haf 2012
Cysylltwch â'r tîm am fwy o wybodaeth.
Dewch i:
- Baratoi am Addysg Uwch a bywyd myfyriwr
- Ddangos y potensial sydd ynoch
- Arbrofi â phynciau newydd
- Ddysgu sgiliau newydd
- Wneud ffrindiau newydd
- Fwynhau’r gorllewin yn yr haf
COSTAU?
AM DDIM!
Mae hyn yn cynnwys:
- yr holl lyfrau a’r deunydd angenrheidiol
- llety llawn i fyfyrwyr preswyl (cinio i fyfyrwyr amhreswyl)
- costau teithio
- mynediad i lyfrgelloedd a defnydd o adnoddau cyfrifiadurol
- £25 yr wythnos o lwfans gweini
BETH?
Mae’r cwrs yn cynnwys sgiliau allweddol a modiwlau ychwanegol i’w dewis o blith nifer o bynciau. Cynhelir hefyd raglen gwaraeon a gymdeithasol iawn.
PAM?
Bydd y rhaglen nid yn unig yn eich paratoi am Addysg Uwch, ond hefyd yn rhoi cyfle ichi brofi bywyd prifysgol. Bydd pob myfyriwr sy’n llwyddo i gwblhau Prifysgol Haf Aberystwyth yn cael cynnig llwybr sicr i gynllun priodol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar yr amod y byddant yn pasio 2 Lefel-A (neu gymhwyster cyfatebol) a hefyd rydym yn cwrdd ag unrhyw anghenion penodol.
Gallwch wneud cais am le yn y Brifysgol Haf os:
- ydych yn 17 o leiaf ac yn gallu dangos brwdfrydedd ac ymroddiad i gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus (myfyrwyr aeddfed mae croeso hefyd i wneud cais) ac
- ydych yn byw neu’n mynd i’r ysgol / coleg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf Cymru, neu yn dod o gefndir gadael gofal / gofal, ac
- y cewch eich henwebu gan eich Ysgol/ Asiantaeth Ieuenctid / Coleg Addysg Bellach, ac
- y gallwch ddangos, trwy eich ffurflen gais, eich bod yn cwrdd â’r meini prawf
MEINI PRAWF
Noder mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan ddisgyblion sy’n bodloni prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru: y rhai sy’n byw neu’n mynd i ysgol / coleg mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf yng Nghymru a’r rhai sydd mewn gofal/wedi gadael gofal. Rhoddir ystyriaeth wedyn hefyd i’r rhai :
- nad oes ganddynt brofiad teuluol o Addysg Uwch
- sydd ag Incwm Teuluol o dan £25,000
- sydd ag afiechyd tymor hir sy’n effeithio’n negyddol ar eu perfformiad
- sy’n wynebu digwyddiad teuluol/personol sy’n effeithio’n negyddol ar eu perfformiad ar hyn o bryd (profedigaeth, ysgariad, ac ati)
- sydd ag anabledd (gweladwy / anweladwy)
- sy’n aelod o grŵp ethnig a dangynrychiolir
-
sydd eisiau astudio pwnc gradd lle mae un rhyw yn cael ei thangynrychioli (er enghraifft, dynion sydd eisiau astudio Seicoleg, Ieithoedd Ewropeaidd, Gofal Plant, neu fenywod sydd eisiau astudio Cyfrifiadureg, Ffiseg, Mathemateg)