Blas ar Brifysgol

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i ddisgyblion ym mlynyddoedd 8-13 ymweld ag ac i ddysgu mwy am fywyd Prifysgol.  Mae ar gael ar gyfer holl ysgolion, ond bydd blaenoriaeth i'r ysgolion hynny sydd a chyfran uchel o ddisgyblion o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.  Bydd disgyblion yn ymgymryd a gweithdai o fewn adrannau'r Brifysgol er mwyn cael profiadau ymarferol sydd wedi eu haddasu i'w grwp oedran, profi bwyd mewn un o dai bwyta'r brifysgol a chwrdd ag israddedigion o sawl adran wahanol.  Gallwn hefyd gynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau ar gyllid myfyrwyr, pam mynd i Brifysgol ayb.  

Gall ymweliadau gael ei gynnal gan y Ganolfan neu Cyswllt Ysgolion (particulary disgyblion Blwyddyn 12)

Dyfyniad ar ymweliad

"Roedd y cyflwyniad am Pam Mynd i Brifysgol yn dda iawn mae wedi newid fy meddwl am brifysgolion.... o'r blaen roeddwn i'n meddwl mai rhywbeth i bobl glyfar iawn a oedd wedi cael graddau A* i gyd yn eu TGAU yw prifysgol, nawr rwy'n deall y gallwch wneud cais am gwrs o'ch dewis os ydych wedi cael digon o'r graddau iawn ar ei gyfer.  Roedd yn daith dda iawn.  Fe wnes i fwynhau yn fawr iawn ac, yn ôl yr hyn mae fy ffrindiau wedi ddweud, rwy'n meddwl eu bod nhw wedi mwynhau hefyd." MP, 14 oed. 

 

"Diolch eto am yr holl waith caled a gyflawnoch chi a’ch tîm ar gyfer ein cynllun ‘Blas ar Fywyd Prifysgol’ diwedd mis diwethaf. Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r ymweliad, ac fe gawson nhw fudd mawr o’r profiad. Mae’r adborth oddi wrth yr ysgolion wedi bod yn anhygoel. Mae’r plant wedi bod yn dweud mai hwn oedd wythnos gorau eu bywydau, a’u bod i gyd yn dod i Aberystwyth i astudio nawr.  Ar lefel bersonol rwyf wedi mwynhau ein tripiau i Aberystwyth erioed, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich ymroddiad i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn, a bod y disgyblion yn cyflawni cymaint. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi." Jenni Rankin Mills Aim Higher, Ymweliad Halton 26 - 29 Ebrill 2011