Clwb Menywod Prifysgol Aberystwyth
Sefydlwyd y Clwb Menywod nifer o flynyddoedd yn ôl fel cyfle i wragedd staff y Brifysgol ddod i adnabod ei gilydd a chymryd rhan ym mywyd y Brifysgol. Mae pethau wedi newid erbyn hyn a bellach mae aelodau'r clwb yn cynnwys menywod sy'n gweithio yn y Brifysgol eu hunain, neu sydd wedi gwneud yn y gorffennol, yn ogystal â gwragedd a phartneriaid. Rydym yn grŵp cyfeillgar a chroesawgar a byddem wrth ein bodd yn croesawu unrhyw aelodau newydd sydd eisiau ymuno â ni. Rydym yn cwrdd o leiaf unwaith y mis i wrando ar gyflwyniad gan siaradwr gwadd, gyda chyfle am luniaeth a sgwrs ar ôl y cyflwyniad. Mae ein rhaglen o gyflwyniadau yn amrywiol a diddorol, ac maent yn ymdrin â nifer o bynciau. Rydym hefyd yn trefnu cyfarfod cyffredinol blynyddol, cinio a gwibdaith bob blwyddyn.