Geiriadur
Prifysgol
Cymru



English version


I waelod y tudalen.


Cynnwys
Cefndir
Tudalen sampl
Ystadegau
Cyhoeddiadau
Archebion
Staff
Adnoddau i ymchwilwyr
Sut i'n helpu
Llyfryddiaeth
Hanes newidiadau




Chwiliad manylach

Gorffen ysgrifennu'r Geiriadur

Gorffen ysgrifennu'r drafft cyntaf o'r Geiriadur

Drafftio erthygl olaf y Geiriadur.
Drafftio'r erthygl olaf. Llun: Gareth Lloyd Hughes

Ar 6 Rhagfyr 2001 lluniwyd yr erthygl olaf i'r Geiriadur ar ôl 80 mlynedd o waith, a thros hanner canrif o lunio erthyglau. Y gair olaf yn y Geiriadur yw Zwinglïaidd, sef 'yn perthyn i athrawiaeth y diwinydd Zwingli'. Cyhoeddwyd y gyfrol olaf ar ddiwedd 2002.

Y cam nesaf

 Er dechrau 2002 y mae staff Geiriadur Prifysgol Cymru wrthi'n adolygu'r rhannau cynharaf o'r Geiriadur sy'n trafod geiriau sy'n dechrau â'r llythrennau A a B. Paratowyd y rhain ar gynllun llawer cynilach na gweddill y gwaith. Seilir yr ail olygiad hwn ar lawer o ddeunydd newydd, ac fe'i cyhoeddir rhwng 2003 a 2011 fel ail argraffiad o A-B. Cyhoeddir y Geiriadur mewn rhannau fel o'r blaen gan Wasg Prifysgol Cymru. Bydd gostyngiad i danysgrifwyr rheolaidd i'r gwaith. Bydd gwaith mewn llaw ar gael yma ar wefan y Geiriadur, ac yn ystod y gwaith o adolygu A-B cyhoeddir fersiwn cryno o'r holl Eiriadur ar lein am ddim. (Ni fydd y fersiwn ar lein yn cynnwys y dyfyniadau enghreifftiol na'r tarddiadau a geir yn y cyfrolau printiedig.) Logo CCAUC. Gan fod y Gymraeg yn iaith fyw, ac yn datblygu bob dydd, y mae'r golygyddion yn croesawu ychwanegiadau a chywiriadau i'w defnyddio wrth adolygu'r gwaith yn y dyfodol. Ariennir y gwaith hwn ganGyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrifysgol Cymru ar y cyd.

Mae cynlluniau ar gyfer rhan nesaf y gwaith yn cael eu trafod ar hyn o bryd.

Tudalen cartref / cynnwys

1921-2009

Cynnwys

I frig y tudalen

English version

I'r tudalen nesaf
Prif. Cymru/Univ. of Wales

Rhodder gwybod i geiriadur@aber.ac.uk os ceir trafferth wrth ddefnyddio'r safle hwn.
Diweddarwyd: 27 Awst 2009  © Hawlfraint Prifysgol Cymru, 1997-2009

Cynnwys | Cefndir | Enghraifft| Gwaith mewn llaw | Ffigurau | Cyhoeddiadau | Archebion | Staff | Adnoddau i ymchwilwyr | Sut i'n helpu | Cais-e | Cynorthwyydd-e | Slip-e | Holiadur | Llyfryddiaeth | Hanes newidiadau | Brig | Nesaf | English