Literary award for Welsh Department alumnus

02 July 2012

Cyn-fyfyriwr yn ennill gwobr lenyddol

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths 2011 i un o gyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg, Dr Geraint Phillips, am ei gyfrol  Dyn Heb ei Gyffelyb yn y Byd: Owain Myfyr a’i Gysylltiadau Llenyddol.

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths 2011 i’r Dr Geraint Phillips, gan Briyfysgol Cymru am gynhyrchu’r gwaith gorau yn Gymraeg ar lenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymreig  yn ystod y tair blynedd blaenorol.

Cwblhawyd yr astudiaeth gan Geraint pan oedd yn fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg, a hynny dan gyfarwyddyd Dr Huw Meirion Edwards. Cyhoeddwyd Dyn Heb ei Gyffelyb yn y Byd: Owain Myfyr a’i Gysylltiadau Llenyddol yn 2010 a’r gyfrol hon yw’r astudiaeth lawn gyntaf o fywyd y Cymro diwylliedig o ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Fe’i canmolwyd yn arbennig am ei bortread o’r berthynas rhwng Owain Myfyr ac Iolo Morgannwg.

Ymunodd Geraint â staff y Llyfrgell Genedlaethol yn 1989, lle mae’n Llyfrgellydd Llawysgrifau.

 

Literary award for Welsh Department alumnus

The 2011 Sir Ellis Griffiths Memorial Prize has been awarded to one of the Welsh Department’s former students, Dr Geraint Phillips, for his book  Dyn Heb ei Gyffelyb yn y Byd: Owain Myfyr a’i Gysylltiadau Llenyddol.

The 2011 Sir Ellis Griffiths Memorial Prize was awarded to Dr Geraint Phillips by the University of Wales for producing the best work in Welsh on one of Wales’ writers, artists or craftsmen during the preceding three years.

Geraint Phillips’ study on Owain Myfyr was completed whilst he was a PhD student in the Welsh Department, under the supervision of Dr Huw Meirion Edwards. Dyn Heb ei Gyffelyb yn y Byd: Owain Myfyr a’i Gysylltiadau Llenyddol was published in 2010, and is the first complete study on the life of Owain Myfyr, the cultured Welshman from the latter part of the eighteenth century. The book was praised, in particular, for its portrayal of the relationship between Owain Myfyr and Iolo Morgannwg.

Geraint joined the National Library of Wales as member of staff in 1989, where he is a Manuscripts Librarian.



Back to the top