Module Information

Cod y Modiwl
AP30820
Teitl y Modiwl
CYNHYRCHIAD YMARFEROL
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
AP10220
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyfraniad ir broses ymarfer a pherfformio   70%
Asesiad Semester Dyddlyfr Ymarfer ac Ymchwil  30%
Asesiad Ailsefyll Gan fod hwn yn fodiwl ymarferol a gyflwynir yn ystod ail semeter y drydedd flwyddyn, ni ellir cynnig asesiad atodol llawn i fyfyrwyr syn mynnu graddio ar ddiwedd y flwyddyn honno. Rhoddir cyfle ir myfyrwyr hynny na fedrodd gwblhaur elfen ymarferol, neu a fethodd y modiwl oherwydd ennill marc isel yn yr elfen ymarferol, i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn seileidig ar y cynhyrchiad gwreiddiol fel asesiad atodol. Os methir yr elfen ysgrifenedig or modiwl, rhaid ailgyflwynor gwaith hwnnw yn ddiymdroi neu oedi blwyddyn cyn graddio ai ailgyflwyno yn ystod y cyfnod ailsefyll fis Awst. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:

1. amlygu eu gallu i gyfansoddi a defnyddio sgor perfformio, yn seiliedig ar fethodau neilltuol
2. arddangos eu dealltwriaeth o ofynion y broses greadigol, yn unigol ac o fewn grwp, mewn ymarferion ac mewn perfformiadau
3. arddangos eu hymwybyddiaeth o'r berthynas annatod rhwng y broses hyfforddi, ymarfer a pherfformio, o safbwynt eu hymarfer a'u myfyrdod beirniadol ar yr ymarfer hwnnw
4. cyd-weithio a chyfranogi fel perfformwyr o fewn y grwp, gan amlygu galluoedd corfforol a lleisiol datblygiedig fel sy'n gymwys yn ol gofynion y dasg

Cynnwys

Cynhyrchiad ymarferol.

Nod

Fe fydd y modiwl hwn yn disodli'r modiwl presennol mewn Astudiaethau Theatr, DD31720 Perfformio 2. Bwriad y modiwl hwnnw ers rhai blynyddoedd fu rhoi cyfle i fyfyrwyr Astudiaethau Theatr weithio ar gynhyrchiad a oedd yn seiliedig ar destun (neu destunau) dramataidd ond a oedd, o ran ei ffurf theatraidd derfynol, yn dra gwahanol o ran gweledigaeth a delweddiaeth i'r hyn a geid yn y testun gwreiddiol. Wrth ddatblygu'r radd mewn Astudiaethau Perfformio, fe greodd yr Adran gyfres o fodiwlau sy'n paratoi myfyrwyr yn drylwyr ar gyfer y math hwn o waith ymarferol, ac felly rhesymol yw dileu DD31720 a throsglwyddo'r cynhyrchiad 'amgen' hwn i'r cynllun Astudiaethau Perfformio.

Bydd y modiwl yn roi cyfle i fyfyrwyr arddel a gweithredu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd ganddynt yn ystod eu cynllun gradd mewn Astudiaethau Perfformio trwy gymryd rhan mewn cynhyrchiad datblygiedig llawn.
Bydd y cynhyrchiad yn fodd i'r myfyrwyr archwilio'r cysyniad o destun yng ngwaith y perfformiwr ac asesu'r berthynas rhwng testun y ddrama, testun y perfformiwr a thestun y perfformiad

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn rhoddir y cyfle i'r myfyrwyr ymarfer eu harbenigedd yn y maes perfformio i lefel ddatblygiedig. Canolbwyntir ar waith unigol yn y modiwl hwn, gan roi cyfle iddynt greu sgor perfformio manwl, a chymeriad cymhleth, yn seiliedig ar fethodau sy'n brioldol i'r testun neu symbyliad neilltuol a ddewisir.

Fe fydd cyfarwyddwr y cynhyrchiad yn gofyn i'r myfyrwyr baratoi yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eu rol, adfyfyrio a dadansoddi eu gwaith creadigol i safon uchel, ac archwilio a myfyrio ar gorff y perfformiwr fel offeryn cynrychioliadol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd yr elfen ymarferol a'r elfen ysgrifenedig o'r modiwl yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu. Disgwylir i'r myfyriwr weithio'n ddyfal yn ystod y cyfnod ymarfer i ddatblygu technegau cyfathrebu corfforol a lleisiol a fydd yn briodol i egwyddorion a thechnegau cyflwyno cyffredinol y cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd gwaith y modiwl yn arwain yn uniogyrchol at ystyriaethau gyrfaol.
Datrys Problemau Bydd elfen o ddatrys problemau creadigol ymhlyg yn ymdrech y myfyrwyr i greu rôl iddyn nhw eu hunain o fewn y cynhyrchiad gorffenedig.
Gwaith Tim Fe fydd y modiwl yn rhoi cryn bwyslais ar y modd y mae myfyrwyr yn cydweithio fel rhan o dîm creadigol. Er y bydd pwyslais digamsyniol ar greu sgôr unigol, fe fydd meini prawf asesiad y modiwl hefyd yn pwysleisio gallu a pharodrwydd y nyfyrwyr i ymroi i gydweithio â'u cydfyfyrwyr er lles cyffredinol y cynhyrchiad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gan mai un cynhyrchiad yn unig a asesir yn y modiwl hwn, ni fydd cyfle i fyfyrwyr wella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Disgwylir y bydd y myfyrywr, ar sail eu profiad academaidd ac ymarferol blaenorol, eisoes wedi datblygu'u gwaith i lefel uchel erbyn ymgymryd â'r modiwl hwn.
Sgiliau ymchwil Fe fydd ymchwil personol yn elfen bwysig o waith y myfyrwyr wrth baratoi cymeriad a sgôr perfformiadol ond nid asesir medrau ymchwil y myfyrwyr yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6