Module Information

Cod y Modiwl
HAM1030
Teitl y Modiwl
PARATOI GOGYFER Â'R TRAETHAWD HIR
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
HYM1030
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 5 seminar x 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau 2 x 1 awr (neu amser yn cyfateb i hynny) o gyfarfodydd gyda chyfarwyddwr y traethawd 3 x 20 munud o diwtorialau traethawd gyda¿r chyfarwyddwr.
Eraill Cynhadledd undydd i'r myfyrwyr MA - 7 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cynllun y traethawd, 1500 o eiriau  20%
Asesiad Semester Adolygiad o lenyddiaeth, 5,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Cais ar gyfer prosiect ar gyfer y traethawd, 1500 o eiriau  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

datblygu syniad clir o faes a phwnc eu traethawd hir MA

datblygu cynllun ac amserlen clir o sut i gwblhau y gwaith ymchwil ac ysgrifennu

adnabod a gwerthuso gwahanol lenyddiaeth eilradd yn eu maes, a datblygu syniad o sut i osod eu ymchwil mewn cyd-destun hanesyddiaethol

adnabod ffynonellau cynradd posib, a bod yn ymwybodol o rai o'r problemau methodolegol a gyfyd wrth eu defnyddio

trefnu traethawd hir mewn ffordd sy'n cydfynd a safnodau academaidd addas

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yma, sy'n cael ei ddysgu ar draws dwy semester, yn cynnig arweiniad i'r myfyrwyr drwy'r broses o lunio eu pwnc ymchwil traethawd hir. Defnyddir amryw o wahanol dechnegau dysgu er mwyn tywys myfyrwyr trwy wahanol gyfnodau yn y broses. Cynhelir seminarau ar ddiffinio'r pwnc, ac ar y fath bynciau a darganfod ffynonellau ac ymdrin a llenyddiaeth eilradd. Trwy'r modiwl yma hefyd y pennir goruchwyliwr addas ar gyfer yr ymchwil, a magir perthynas glos rhwng y myfyriwr a'r goruchwyliwr trwy gyfres o diwtorialau unigol. Tua diwedd y modiwl, cynhelir dau sesiwn hirach a fydd yn canolbwyntio medyliau'r myfyrwyr ar y broses o ysgrifennu traethawd hir, ac yn magu sgiliau academaidd ehangach. Bydd gweithdy hanner-diwrnod ar sgiliau ysgrifennu, ac hefyd cynhelir cynhadledd undydd lle disgwylir i bob myfyriwr MA i roi cyflwyniad llafar ar eu gwaith, ac i drafod mewn awyrgylch cynhadledd academaidd.

Nod

Pwrpas y modiwl yw i roi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i fynd ati i ffurfio a chynllunio prosiect ymchwil gwreiddiol, a'u paratoi gogyfer a'r dasg o gynhyrchu'r traethawd hir. Bydd myfyrwyr yn astudio sut i ddiffinio testun addas, sut i chwilio am ffynonellau, sut i osod eu ymchwil mewn cyd-destun hanesyddiaethol, a sut i gynhyrchu gwaith ymchwil sy'n cyd-fynd a gofynion a chonfensiynau academaidd.

Cynnwys

Seminarau:
1. Diffinio pwnc addas
2. Cynllunio'r traethawd hir
3. Darganfod ffynonellau eilradd a gosod gwaith ymchwil mewn cyd-destun
4. Darganfod ffynonellau cynradd
5. Drafftio, ail-ddrafftio, a datblygu prosiect ymchwil

Tiwtorialau:
Pennir goruchwylwyr i bob myfyriwr, a disgwylir iddynt gyfarfod yn rheolaidd mewn tiwtorialau unigol - oddeutu unwaith y mis fel arfer.

Gweithdy ysgrifennu:
- Gweithdy hanner-diwrnod, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu arddull addas, cwestiynau o gynllunio a threfnu deunudd, a chonfensiynau cyfeirnodi academaidd addas

Cynhadledd undydd
- Cynhelir cynhadledd, lle disgwylir i bob myfyriwr roi cyflwyniad llafar o 15-20 munud ar eu gwaith ymchwil. Bydd staff a myfyrwyr yn rhoi adborth ar gyflwyniadau, ac yn trafod pynciau sy'n deillio ohonynt mewn awyrgylch cynhadledd academaidd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd, a asesir. Yn ogystal, datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar trwy'r gynhadledd undydd. Ni asesir hyn yn ffurfiol, ond rhoddir adborth ar eu perfformiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu'r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol.
Datrys Problemau Disgwylir i'r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a fydd yn codi wrth ddiffinio pwnc eu traethawd hir, a chynllunio prosiect ymchwil.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir y fedr hon yn bennaf trwy'r berthynas agos a ddatblygir rhwng y myfyrwyr a'r goruchwyliwr traethawd. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr i ymateb i sylwadau'r goruchwyliwr.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau hanfodol wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer cynllunio darn o ymchwil hanesyddol, ei osod mewn cyd-destun hanesyddiaethol, a'i gyflwyno mewn modd sy'n cyd-fynd â chonfensiynau arferol y ddisgyblaeth.
Sgiliau ymchwil Bydd datblygu medrau ymchwil yn rhan ganolog o'r modiwl yma. Mae pob elfen o'r canlyniadau dysgu a asesir yn berthnasol yma.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau cynradd ac eilradd gogyfer â'u testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7