Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 3 Awr. (3 x 1 awr dosbarth esiampl) |
Darlithoedd | 19 Awr. (19 x 1 awr o ddarlithoedd o MA20110 trwy gyfrwng y Saesneg) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. darganfod, ar gyfer cyfnod mympwyol, y cyfresi Fourier o ffwythiannau integradwy;
2. cymhwyso technegau cyfresi Fourier i'r symiant o gyfresi anfeidraidd;
3. disgrifio'r cysyniadau o didoriant & differadwyedd ar gyfer ffwythiannau o sawl newidyn;
4. dadansoddi pa ffwythiannau, o ddau neu fwy o newidynnau, sydd yn di-dor ac yn ddifferadwy;
5. darganfod, trwy defnyddio profion cydgyfeiriant amrywiol, pa gyfresi anfeidraidd sy'n cydgyfeirio
6. disgrifio'r cysyniad o cydgyfeiriant unffurf mewn dilyniant o ffwythiannau;
7. defnyddio'r prawf-M Weierstrass i brofi cydgyfeiriant unffurf mewn cyfres anfeidraidd o ffwythiannau;
8. darganfod y radiws o gydgyfeiriant o'r gyfres pwer;
9. defnyddio theoremau cydgyfeiriant safonol sy'n ymwneud gyda'r cyfres pwer.
Nod
Yn y modiwl yma, estynnwyd y technegau dadansoddol, a datblygwyd yn MT11110, i fframwaith mwy cyffredinol. Bydd y modiwl yn rhoi sylfaen i dadansoddi clasurol mewn gosodiad penodol, gyda pwyslais arbennig ar gymwysiadau
Cynnwys
2. CALCWLWS O SAWL NEWIDYN: Didoriant, differadwyedd, differu rhannol, trefn uwch a differiadau rhannol cymysg.
3. THEORI CYFRESAU ANFEIDRAIDD: Profion ar gyfer cydgyfeiriant, gan gynnwys y prawf cymharol, y prawf cymarebol a'r prawf cyfannol. Cyfres pwer, radiws o gydgyfeiriant, cydgyfeiriant absoliwt. Yr egwyddor cydgyfeiriant ar gyfer cyfresi.
4. CYDGYFEIRIANT UNFFURF AM DDILYNIANT O FFWYTHIANNAU: Cydgyfeiriant unffurf o gyfresi, prawf-M Weierstrass. Egwyddor Cauchy am gydgyfeiriant unffurf.
Disgrifiad cryno
Mae'r astudiaeth o ddadansoddiad real yn ganolog i astudiaethau unrhyw fyfyriwr sydd am ymestyn ei gallu mathemategol. Mae'r gallu i feddwl yn gasgliadol a hefyd i ddadansoddi esiamplau cymhleth yn angenrheidiol i addasu ac estyn cysyniadau i gyd-destunau newydd. Mae'r modiwl yma yn trio cwrdd gyda'r gofynion yma.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5