Module Information

Cod y Modiwl
AD11420
Teitl y Modiwl
POLISIAU A MATERION MEWN ADDYSG
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 awr
Seminarau / Tiwtorialau 10 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   1 arholiad ysgrifenedig dwy awr, dau gwestiwn  60%
Asesiad Semester 1 ymarfer llyfryddiaethol, 1000 o eiriau  15%
Asesiad Semester 1 traethawd, 2000 o eiriau  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


Dangos eu bod yn gwybod am ac yn deall datblygiadau hanesyddol system addysg yng Nghymru a Lloegr.

Dangos eu bod yn gallu gwerthuso'n feirniadol polisiau addysg a materion cyfoes addysg.

Dangos eu bod yn gallu creu dadl gydlynol wrth drafod materion cyfoes yn y byd addysg.

Dangos eu bod yn gallu trafod eu profiadau addysg eu hunain yng nhgyd-destun newidiadau a datblygiadau yn y system addysg

Dangos eu bod yn gallu defnyddion ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir polisiau a materion cyfoes mewn addysg yng Nghymru a Lloegr. Lleolir polisiau addysg mewn cyd-destun hanesyddol sy'n olrhain datblygiadau a newidiadau, ond hefyd trafodir materion o bwys sy'n bod heddiw.

Cynnwys

Seilir y darlithiau ar y testunau canlynol:
1. Cyflwyniad - elfennau system addysg
2. Datblygiad ysgolion mewn cymdeithas
3. Deddfau Addysg 1944 a 1988
4. Rheolaeth, Dewis ac Atebolrwydd
5. Polisiau Addysg Llafur Newydd yng Nghymru a Lloegr
6. Materion 1: Safonau Addysg
7. Materion 2: Cymru: Cenedlaetholdeb, Diwylliant ac Addysg mewn Ysgolion
8. Materion 3: Tri Thestun Dadleuol y Dydd (Bwyta'r Iach yn yr Ysgol, Dysgu Bechgyn a Merched ar Wahan, ac Anghenion Addysg Arbennig)
9. Materion 4: Cwricwlwm16-19
10. Materion 5: Gender ac Addysg

Seilir y seminarau ar y canlynol:
1. Hunangofiant am Eich Addysg
2. Deddf Addysg 1944
3. Ysgolion Gramadeg ac Ysgolion Cyfun
4. Deddf ddysg 1988
5. Y Cwricwlwm cenedlaethol
6. Materion Addysg y Dydd
7. Anghenion Addysg Arbennig
8. Bwyta'r Iach yn yr Ysgolion
9. Tangyflawni Bechgyn yn yr Ysgolion
10. Safbwyntiau ar Addysg Uwch





Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4