Module Information

Cod y Modiwl
FT11200
Teitl y Modiwl
ASTUDIO FFILM A'R CYFRYNGAU
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill 20 sesiwn gwylio x 2 awr (un yr wythnos)
Darlithoedd 10 x Darlith (dros 2 semester)
Seminarau / Tiwtorialau 10 x Seminar (dros 2 semester)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyfraniad i seminarau  10%
Asesiad Semester Arholiad 2 awr o hyd  50%
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno unrhyw waith nas cyflwynwyd eisioes.  Os methir yr elfen o gyfraniad i seminarau yna fydd rhaid i fyfyrwyr gyflwyno dadansoddiad ysgrifenedig 1500 o eiriau a fydd yn trafod eu profiad dysgu yn ystod y modiwl. 
Asesiad Semester Traethawd 2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth o brif ddamcaniaethau ffilm a'r cyfryngau

2. Dadansoddi testunau cyfryngol gweledol yn feirniadol

3. Trafod testunau cyfryngol gweledol yn eu cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol ehangach

4. Ysgrifennu traethodau academaidd sy'n tystio i feddiant sgiliau beirniadaethol a dehongliadol

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau ac yn rhoi iddynt y seiliau academaidd sydd yn hanfodol ar gyfer astudio ffilm a chyfryngau ar lefel Prifysgol. Mae'n un o bedwar modiwl systematig a fydd yn gosod sylfaen gadarn i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf.

Cynnwys

Darlith 1: Dehongli'r Gweledol
Darlith 2: Ffilmiau Naratif Hollywood
Darlith 3: Mudiadau Ffilm Ewropeaidd
Darlith 4: Theoriau Bazin ac Eisenstein
Darlith 5: Sinema Genedlaethol
Darlith 6: Prif ddamcaniaethau'r Cyfryngau
Darlith 7: Gwreiddiau a Hanes a Cyfryngau
Darlith 8: Genre ar Waith: Newyddion, Opera Sebon, Rhaglenni Plant
Darlith 9: Panig Moesol: Achos Astudio
Darlith 10: Y Gynulleidfa Ddigidol

Disgrifiad cryno

Cyflwynir myfyrwyr i sylfaen astudiaeth academaidd o ffilm a chyfryngau gan gynnwys darlledu a chyfryngau digidol. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i ddatblygiad ffilm a'r cyfryngau fel ffenomenonau diwylliannol a chymdeithasol. Cynllunir y modiwl er mwyn cynnig cyflwyniad clir a thrylwyr i brif feysydd astudiaeth academaidd o ffilm a'r cyfryngau. Fe fydd y modiwl hwn yn trafod cysyniadau amrywiol trwy gynnig astudiaethau a gor-olwg hanesyddol o fewn cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol. Ymhlith y pynciau a astudir bydd y cysyniad o sinema genedlaethol, ffilm fel celfyddyd, ffilm fel naratif, hanes darlledu, panig moesol a genre.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar ar lafar mewn modd adeiladol a synhwyrol sy'n dangos dealltwriaeth o'r pwnc penodol dan sylw, meithrin y grefft o gyfathrebu barn a safbwynt yn ysgrifenedig mewn modd sy'n hygyrch i ddarllenwyr eraill.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol ym maes cyfathrebu effeithlon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Meithrin hyder yn eu gallu i drin a thrafod syniadau a theoriau sylfaenol a'u gallu i ddarllen a dehongli gwahanol gyfryngau celfyddydol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. Bydd disgwyl iddynt ddatblygu barn annibynol a derbyn, deall a pharchu barn unigolion a grwpiau eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Meithrin ac arddangos y gallu i ddadansoddi, deall a chyflwyno dadleuon academaidd.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. Disgwylir iddynt ddarparu tystiolaeth briodol o'r cyfryw waith ymchwil trwy gyfrwng llyfryddiaeth a a throednodiadau lle bo hynny'n briodol.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4