Module Information

Cod y Modiwl
FT30120
Teitl y Modiwl
DADANSODDI TELEDU
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10
Seminarau / Tiwtorialau 10
Eraill Gwylio a Thasgau 10 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau.  Disgwylir y Traethawd Cyntaf i mewn am 12.00 (hanner dydd) Dydd Llun, 17 Tachwedd 2008.  50%
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau.  Disgwylir yr Ail Draethawd i mewn am 12.00 (hanner dydd) Dydd Iau, 8fed o Ionawr 2009.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Erbyn cwblhau'r modiwl yma, dylai'r myfyriwr fedru cyflawni'r canlynol:

Trin a thrafod y prif ddadlueon a theoriau yn y maes.
Defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli y byd teledu.
Gweld cyd-destun teledu yn y gymdeithas a'r byd masnachol.

Disgrifiad cryno

Mae teledu yn chwarae rol allweddol yn y gymdeithas fodern, ond yn aml iawn fe'i cymerir yn ganiatao a'i dderbyn yn gymharol ddi-gwestiwn. Bwriad y modiwl hwn yw ystyried teledu o safbwynt beirniadol, gan son am y gwahanol ffyrdd o ymdrin a`r pwnc yng nghyd-destun fframwaith damcaniaethol.


Nod

Amcan y modiwl yw cyflwyno rhai o'r dadleuon allweddol a theoriau traddodiadol yn y maes dadansoddi teledu. Bydd fframwaith yn cael ei adeiladu yn ystod y modiwl i ddangos sut mae teledu yn gweithio fel ffenomenon ddiwylliannol a masnachol ac i godi cwestiynau ynglyn a dehongli a beirniadu'r byd teledu.

Cynnwys

Rhennir y cwrs yn ddau ran gyda chwestiwn traethawd i bob rhan. Yn y pum darlith gyntaf, edrychir ar theoriau o ddarllen y sgrin o safbwynt adeiledd a dehongli, tra bod yr ail ran yn canolbwyntio ar genre gan ganolbwyntio ar fathau penodol o raglenni.

1. Darllen y Sgrin: Adeiledd a Phatrymau
2. Darllen y Sgrin: Theori Llif.
3. Darllen y Sgrin: Cynrychiolaeth a Chyd-destun.
4. Darllen y Sgrin: Y Cyfarchiad Uniongyrchol a'r dehongliad o Wyliwr.
5. Darllen y Sgrin: Awdurdod, Niwtraliaeth a Hegemoni.
6. Beth yw Genre: Pam mae'n bwysig: hanes/economi/confensiynau yn newid.
7. Genre: Newyddion - ffurf a realiti.
8. Genre: Rhaglenni Plant - ideoleg a masnach.
9. Genre: Chwaraeon - pleser a chenedlaetholdeb.
10. Cymorth Traethawd (ar ffurf taro mewn unigol).

Traethawd 1 (17 Tachwedd 2008)
Dewiswch un raglen deledu gan gynnig dadansoddiad manwl o safbwynt adeiledd a llif, cynrychiolaeth, modd cyflwyno, cyd-destun darlledu, y dehongliad a wneir o'r gwyliwr, a'r cysyniad o awdurdod a/neu hegemoni cymdeithasol.

Traethawd 2 (8 Ionawr 2009)
Beth yw pwrpas astudio genre ym myd teledu? Wrth edrych ar un genre yn benodol, trafodwch gryfderau a phroblemau astudiaeth o'r fath.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Allen, Robert C (1992) Channels of Discourse, Reassembled:Television and Contemporary Criticism 2nd London:Routledge Chwilio Primo Buscombe, Edward (2000) British Television - A Reader Oxford:OUP Chwilio Primo Corner, John (2000) Critical Ideas in Television Studies Oxford:OUP Chwilio Primo Ellis, John (2000) Seeing Things: Television in the Age of Uncertainty London:Taurus Chwilio Primo Geraghty, Christine & David Lusted (eds) (1998) The Television Studies Book London:Arnold Chwilio Primo Williams, Raymond (1990) Television:Technology and Cultural Form London:Routledge Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6