Module Information

Cod y Modiwl
FT31400
Teitl y Modiwl
YMCHWIL CYNHYRCHIAD
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
TF31420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlith/Seminar 1 x 2 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig  25%
Asesiad Semester Ffolio ymchwil  75%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Erbyn cwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/myfyrwraig sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:

  • Dangos gallu i ymchwilio'n effeithiol mewn sawl maes: wrth ddarganfod syniadau a'u troi yn straeon, wrth ddarganfod lleoliadau cymwys, ac wrth ddarganfod ffynonellau gweledol archifol ysgrifenedig;
  • Cwblhau nifer o dasgau ymarferol ysgrifenedig i safon foddhaol, gan gynnwys triniaeth o sgript, 'billing' i'r 'Radio Times' , a 'pitch' rhaglen i gefnogi syniad;
  • Cymhwyso'r ffactorau ymarferol canlynol wrth baratoi sgript: canllawiau'r ITC, S4C a'r BBC o ran polisiau golygyddol; materion Iechyd a Diogelwch; materion cyfreithiol e.e. hawlfraint;
  • Dangos gallu i ddelio'n effeithiol gyda chyfranwyr.

Disgrifiad cryno

Trafodir nifer o bynciau yn ystod y modiwl, gan gynnwys rol yr ymchwilydd yn y broses gynhyrchu ac adnabod y gynulleidfa; pitsio'r syniad; gwerthuso a defnyddio ffynonellau gwybodaeth a strategaethau ymchwil; y Rhyngrwyd fel offeryn ymchwilio; ffynonellau archifol; delio a chyfranwyr; polisi golygyddol; iechyd a diogelwch; delio a lleoliadau; ymchwil a'r gyfraith.

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno'r sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr wrth weithio yn y maes ymchwil cynhyrchiad yn y cyfryngau darlledu.

Cynnwys

Beth yw ymchwil cynhyrchiad?
Ffynonellau a strategaethau gwybodaeth
Rol yr ymchwilydd 1
Rol yr ymchwilydd 11
Chwaeth a gwedduster
Ymchwil rhaglenni cylchgrawn/cerdd
Archif genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
Cydymffurfiaeth
Rheoleiddio, hawlfraint a materion cyfreithiol
Tiwtorials unigol i drafod y prosiect

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Chater, Kathy (1998) Production Research: An Introduction Focal Chwilio Primo Emms, Adele (2002) Researching for Television and Radio Routledge Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6