Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 14 Hours. (14 x 1 awr) |
Sesiwn Ymarferol | 6 Hours. 3 x 2 awr (2 sesiwn cyfrifiadurol a un gweithdy cynllunio arolwg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.) | |
Asesiad Semester | Adroddiad Y Myfyriwr o 1,500 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Traethawd: 2,500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Prosiect | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wedi cwblhau'r modiwl fe fydd myfyrwyr yn gallu:
i) dadansoddi'n feirniadol y prif esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru.
ii) dadansoddi'n feirniadol hanes etholiadau yng Nghymru a thu hwnt.
iii) defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i ddadansoddi canlyniadau arolwg barn.
Disgrifiad cryno
Fe gyflwynir myfyrwyr i'r prif ddamcaniaethau am ddulliau pleidleisio ac fe ystyrir eu heffeithiolrwydd yn y cyd-destun Cymreig.
Nod
- Rhoddi dealltwriaeth glir o wahanol esboniadau o batrymau pleidleisio yng Nghymru
- Rhoddi cyflwyniad i hanes etholiadau yng Nghymru a Phrydain.
- I gyflwyno myfyrwyr i waith holiadur a dadansoddiad data meintiol.
- I ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tim trwy waith prosiect.
Cynnwys
Fe fydd y modiwl hon yn trafod y gwahanol esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried datblygiad hanesyddol etholiadau yng Nghymru a Phrydain. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil meintiol er mwyn asesu agweddau o ymddygiad pobl wrth bleidleisio.
Sgiliau trosglwyddadwy
10 credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydBridget Taylor & Katarina Thompson Scotland and Wales: Nations Again Chwilio Primo Paul Webb The Modern British Party System Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6