Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar a dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG | 70% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG A GWAITH AR GOLL | 100% |
Asesiad Semester | 1 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU YR UN | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau ym maes hanes Cymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar.
Myfyrio ar a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.
Gweithio'n annibynnol ac mewn tim.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.
Disgrifiad cryno
Nod yr astudiaeth hon ar Gymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themau hanes Cymru cyn datblygiad diwydaint sylweddol. Ceisir olrhain prif ddatblygiadau yn hanes y wald o gyfnod grym y tywysogion yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at yr arwyddion cynnar o radicaliaeth wleidyddol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Rhoddir sylw drwy gydol y cwrs i ymateb pobl Cymru i'r newidiadau o ran awdurdod a llywodraeth.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themau pwysig yn hanes Cymru'r canol oesoedd diweddar a'r cyfnod modern cynnar
Cynnwys
1. Creu Hunaniaeth Wleidyddol: Llywelyn ap Gruffudd
2. Goresgyniad 1282
3. Canlyniadau'r Goncwest
4. Gwrthryfel Glyndwr
5. Chwilio am y `Mab Darogan'
6. Y Deddfau Uno (1536-43)
7. Natur Cymdeithas y Cyfnod Modern Cynnar
8. Awdurdod y Bonedd
9. Arferion a chredoau poblogaidd
10. Dylanwad y Dadeni Dysg
11. Y Diwygiad Protestannaidd
12. Cymru a'r Rhyfel Cartref
13. Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth
14. Llythrennedd ac addysg yn y ddeunawfed ganrif
15. Y Diwygiad Methodistaidd
16. Creu Traddodiad
17. Iolo Morganwg a Rhamantiaeth
18. Twf radicaliaeth wleidyddol
Seminarau (e.e):
Llywelyn ap Gruffudd
Owain Glyndwr
Y Deddfau Uno
Dadeni a Diwygiad
Cymru a'r Rhyfel Cartref
Brwdfrydedd ac Ymoleuo yn y Ddeunawfed Ganrif
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4