Module Information

Cod y Modiwl
AP20320
Teitl y Modiwl
DYFEISIO A PHERFFORMIO
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
AP10120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 x Arddangosfa Grwp 20 munud  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x Traethawd Perfformiadol Unigol 15 munud  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd: gosodir teitl newydd ir traethawd perfformiadol gan diwtor y modiwl. Ar gyfer yr arddangosfa grwp disgwylir ir myfyriwr/wraig syn ail-sefyll ddyfeisio cyflwyniad fel unigolyn o dan yr un amodau ar asesiad gwreiddiol 

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:

1. deall a chymhwyso'r systemau perfformiadol a astudir yn y modiwl
2. defnyddio'r dulliau gweithredu a'r ymarferion a astudir ar y modiwl er mwyn dyfeisio 'sgript' perfformiadol a chyflwyniad enghreifftiol
3. arddangos dealltwriaeth o natur perfformiad personol a pherfformiad grwp, yn enwedig o safbwynt gwaith a safle'r corff
4. ystyried, fesul grwp, y broses o ddyfeisio perfformiadau a chyflwyno cysyniadau perfformiadol
5. ail-ystyried yr ymarfer hwn ar sail unigol, gan ddatblygu ymwybyddiaeth bellach o broses gorfforol a meddyliol yr unigolyn yn ystod perfformiad

Cynnwys

Trefn arfaethedig y Darlithoedd:
1. Rhagarweiniad: Systemau Dyfeisio
2. Ym Mhob Iaith : Deuawdau
3. Ym Mhob Iaith : Unawdau
4. Ym Mhob Iaith : Gwaith Grwp
5. Gweithredu : Trin Ym Mhob Iaith fel sgor corfforol
6. Dramatwrgiaeth 1 : Cyfansoddi
7. Dramatwrgiaeth 2 : Adolygu/Ailweithio'r Cyfansoddiad
8. Lleoliadau a Safleoedd Perfformio
9. Testun ac Amser
10. Cynulleidfaoedd

Cyflwynir 6 o seminarau yn ogystal a'r uchod er mwyn helpu a chynghori'r myfyrwyr wrth iddynt baratoi eu hasesiadau ymarferol.

Nod

Bwriedir diwygio'r modiwl presennol DD24020 Dyfeisio a Pherfformio er mwyn adlewyrchu rhai o'r newidiadau yn narpariaeth yr Adran a ddaw yn sgil ychwanegu modiwlau newydd a chreu cynllun Anrhydedd Gyfun mewn Astudiaethau Perfformio. Fel ag o'r blaen, fe fydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddulliau gweithredu ac ymarferion perfformiadol o'r theatr gorfforol Ewropeaidd ac Americanaidd fel y datblygodd honno yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. I'r perwyl hwnnw, fe fydd yn gosod pwyslais ar waith 'di-destun', dyfeisiedig (hynny yw, gwaith theatr sy'n deillio o sgiliau perfformiadol cynhenid a chydberthynas aelodau grwp o artistiaid yn hytrach na gofynion testun dramataidd parod), ac yn annog y myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o ansawdd a natur y gwaith hwnnw trwy ddulliau corfforol.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn fydd cynnig sylfaen ymarferol i feithrin dealltwriaeth o ymarferion a dulliau gweithredu'r theatr ddi-destun. Gwneir hyn trwy gyflwyno syniadau a fframweithiau ymarferol a ddefnyddir er mwyn symbylu ymholiadau ac arbrofion, yn enwedig y rheini sy'n deillio o ymarferion damcaniaethwyr a gweithredwyr blaenllaw fel Bogart, Barba a Grotowski. Dechreubwynt y gwaith, fodd bynnag, fydd techneg 'Ym Mhob Iaith' y cwmni Cymraeg Brith Gof.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae'n amlwg y bydd ymdrech i gyfathrebu trwy gyfrwng dulliau gweithredu ac ymarferion dyfeisio/cyflwyno yn datblygu medrau cyfathrebu'r myfyrwyr, a hynny ar lafar ac yn gorfforol yn y sesiynau dysgu ac yn ystod yr asesiadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y medrau datblygiad personol a chynllunio gyrfa: yn uniongyrchol yn y modiwl eithr fe fe ddatblyga'r modiwl hwn ymwybyddiaeth o ddulliau gweithredu a pherfformio sydd yn seiliedig ar sgiliau cyflwyno deunydd perfformiadol fel unigolyn a grwp
Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'r gwahanol ddiffiniadau o berfformiad fel digwyddiad esthetig a amlygir gan y technegau corfforol a'r termau theoretig a gyflwynir yn ystod y modiwl. Adlewyrchir llwyddiant y myfyrwyr wrth ddatrys problemau yn eu gwaith asesiedig ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl.
Gwaith Tim Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwreiddio gwaith tîm y myfyrwyr yn yr asesiad cyntaf. Fe sylwir o'r rhestr darlithoedd fod trafodaeth o waith ensemble a gwaith tîm yn rhan eang o gynnwys y modiwl hwn
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r ffaith fod yr asesiadau'n datblygu'r dechneg gorfforol, weledol a lleisiol o un asesiad i'r llall yn arwydd clir o'r modd y datblygir y medrau hyn yn y modiwl. Disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu deunydd, ond nid asesir y medrau hyn yn benodol yn ystod y modiwl.
Sgiliau ymchwil Fe fydd cyflawni ymchwil a darllen cefndirol unigol yn agwedd bwysig ar y modiwl hwn, wrth i'r myfyrwyr geisio deall a gwerthfawrogi cyd-destun nifer o enghreifftiau o berfformio a ddangosir iddynt
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'u hail asesiad, ond nid oes lle yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Auslander, Philip (1999) Liveness: Performance in a Mediatised Culture Routledge Chwilio Primo Barba, Eugenio and Savarese, Nicola (1991) A Dictionary of Theatre Anthropology - The Secret Arts of the Performer Routledge Chwilio Primo Bigelow Dixon, M a Smith, J.A (1995) Anne Bogart's Viewpoints Smith a Kraus Chwilio Primo Birringer, J. H (2000) Performance on the Edge: Transformation of Culture Athlone Press Chwilio Primo Diamond, E (1996) Performance and Cultural Politics Routledge Chwilio Primo Grotowski, Jerzy (2002) Towards a Poor Theatre Routledge Chwilio Primo Hodge, Alison (1999) Twentieth Century Actor Training Routledge Chwilio Primo Kaye, Nick (2000) Site-specific art: performance, place and documentation Routledge Chwilio Primo Oddey, A (1996) Devising Theatre Routledge Chwilio Primo Pearson, M (1997) Staging Wales, Taylor A.M (gol). Special Worlds, Secret Maps. A poetics of Performance tt. 85-99 Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5