Module Information

Cod y Modiwl
BG15010
Teitl y Modiwl
PYNCIAU LLOSG MEWN GWYDDONIAETH
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion Pellach:

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 Hours.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd (1500-2000 o eiriau)  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Traethawd (60 munud) a chwestiynau aml-ddewis (60 munud)  60%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl, gobeithir y bydd myfyrwyr:-

  • wedi cael gwybodaeth eang o bynciau gwyddonol cyfoes mewn ystod eang o ddisgyblaethau
  • yn gallu cyfleu pynciau gwyddonol yn fanwl ac yn eglur, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • yn ymwybodol o ffynonellau gwybodaeth perthnasol
  • yn hyderus ac yn fedrus wrth ddefnyddio'r Gymraeg i drafod y gwyddorau
  • yn medru asesu pynciau allweddol sydd ynghlwm wrth achosion ac effeithiau newid hinsawdd byd-eang ac effeithiau technolegau modern (e.e. technoleg addasu genetig, datblygiadau mewn cyfrifiadureg) ar ddynolryw ac ar yr amgylchedd. Mae'r meysydd gwyddonol hyn yn ddadleuol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o sail wyddonol y dadleuon sy'n cael eu cyflwyno gan gefnogwyr a chan wrthwynebwyr y technolegau hyn.

Nod

Mae hwn yn fodiwl aml-ddisgyblaethol, wedi'r ddysgu drwy'r Gymraeg, sy'r cyfuno nifer o feysydd gwyddonol amserol gan ganolbwyntio ar dair thema: Y Ddaear a'r Bydysawd, Effaith Dyn ar yr Amgylchedd ac Effaith Datblygiadau Technolegol Modern.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4