Module Information

Cod y Modiwl
BGM8910
Teitl y Modiwl
CYNALADWYEDD AMGYLCHEDDOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 14 Hours.
Seminarau / Tiwtorialau 6 Hours.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad ailsefyll (1.5 awr)  40%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ddiwedd semester: Cwestiwn traethawd  40%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno gwaith cwrs sydd wedi methu  60%
Asesiad Semester Ymarfer gwe (i gael ei farcio yn electronig)  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar a chrynodeb cynhadledd (15 munud)  20%
Asesiad Semester Datganiadau amgylcheddol  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

bydd gan fyfyrwyr wybodaeth eang am bynciau sy'r ymwneud ag effaith dyn ar y blaned (yn lleol ac ar raddfa fyd-eang)

bydd myfyrwyr yn ymwybodol o (ddeddfwriaeth) gyfrifoldeb amgylcheddol

bydd myfyrwyr yn gallu cynnig datrysiadau i wella effeithlonrwydd amgylcheddol ar lefel lleol (yn enwedig yn amgylchedd busnes)

bydd myfyrwyr yn gallu ymdrin a chyllidebau carbon, sylweddoli cyfrifoldeb amgylcheddol a chynnig dulliau o leihau a gwrthbwyso allyriannau carbon.

bydd myfyrwyr yn hyderus wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gywir ac yn eglur, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Nod

Mae'r modiwl yn gosod sylfeini generig rhagorol ym maes effeithlonrwydd amgylcheddol, a hynny'r berthnasol i nifer o gynlluniau gradd lefel Meistr o fewn cyfadrannau'r Celfyddydau a'r Gwyddorau. Agwedd bwysig arall yw'r ffaith ei fod hefyd yn ymateb i ymrwymiad y Llywodraeth i `wyrddio? cwricwlwm y prifysgolion.

Disgrifiad cryno

Mae hwn yn fodiwl newydd sy'r ymdrin a chyfrifoldeb amgylcheddol, effaith dyn ar y blaned a'r angen cynyddol i fyw'r fwy cynaliadwy. Drwy ddeunydd darlithoedd sy'r esbonio'r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys newid hinsawdd, llygredd, iechyd a defnydd adnoddau naturiol. Cyflwynir sefyllfaoedd enghreifftiol a datrysiadau, o newidiadau mewn ymddygiad i ddefnydd amgen o egni, a hynny ar lefel yr unigolyn, ar lefel cymdeithas, ac ar lefel byd-eang. Rhoddir cyngor ymarferol i hybu effeithlonrwydd amgylcheddol yn y cartref ac yn y gweithle. Mae'r modiwl, felly, yn darparu sgiliau galwedigaethol rhagorol sy'r pontio'r bwlch pwysig rhwng theori ac arfer yn y gwyddorau amgylcheddol.
Mae ethos y modiwl yn golygu bod rhaid i'r dulliau dysgu fod yn effeithlon o safbwynt yr amgylchedd. Darperir darlithoedd ar y We (drwy Blackboard) ac mae'r deunydd yn cynnwys sgriptiau darlithoedd hunanddysgu, pecyn gwybodaeth ar y We, a chod dysgu amgylcheddol. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio'r strwythur hwn i fynd drwy ddeunydd y darlithoedd ar eu cyflymdra eu hunain. Bydd adnoddau gwe cymeradwyedig, a phapurau perthnasol ar ffurf ffeiliau pdf, hefyd yn cael eu rhoi ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod a syntheseiddio deunydd y darlithoedd mewn tiwtorialau a gweithdai sy'r gysylltiedig a'r darlithoedd hynny. Mae'r modiwl hefyd yn cynnwys ysgrifennu datganiadau amgylcheddol a chyflwyniad amgylcheddol sy'r seiliedig ar nifer o astudiaethau achos. Bydd ymarfer gwe `cyllideb carbon? yn rhoi i fyfyrwyr y dasg o wella effeithlonrwydd amgylcheddol mewn sefyllfa fusnes gyffredin. Drwy ddeunydd darlithoedd sy'r esbonio'r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd gweithgareddau gweithdy yn datblygu lefel uchel o sgiliau cyfathrebu yn y myfyrwyr sy¿n astudio¿r modiwl hwn. Trafodir pynciau ar ffurf dadleuon gwyddonol. Bydd cyfranwyr y modiwl yn cynnig nifer o ddadleuon gwahanol ar gyfer trafodaeth a disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu ac amddiffyn eu safbwyntiau eu hunain mewn trafodaethau gr¿p. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau erbyn dyddiadau penodol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae¿r modiwl yn rhoi i fyfyrwyr sgiliau galwedigaethol rhagorol sy¿n berthnasol iawn i¿r gweithle. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am weithrediadau effeithlonrwydd amgylcheddol a gwybodaeth am gynlluniau cyllido i hybu cynaladwyedd amgylcheddol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu a fyddai¿n werthfawr iawn mewn nifer o yrfaoedd posibl o fewn Cymru.
Datrys Problemau Mae¿r ymarfer gwe `cyllideb carbon¿ yn rhoi taenlen (`spreadsheet¿) i fyfyrwyr er mwyn cyfrifo¿r hyn mae defnydd egni yn ei gynrychioli o ran allyriannau carbon a faint o goed y byddai eu hangen er mwyn neilltuo¿r carbon hwn. Cedwir deunydd penodol yn Blackboard a bydd gwybodaeth gyffredinol ar gael yn www.aber.ac.uk/ensus/.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn grwpiau trafodaeth yn ystod y sesiynau gweithdy. Byddant hefyd yn cyflwyno cyflwyniad llafar 15-munud (gan gynnwys cwestiynau). Bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu rheoli fel cynhadledd, a bydd myfyrwyr yn cyflwyno crynodeb o¿u cyflwyniad erbyn dyddiad penodol. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi¿n fewnol ar y wefan.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae¿r modiwl yn galw am hunanddysgu gan y myfyriwr. Bydd rhaid i fyfyrwyr reoli gwybodaeth, data ac amser yn effeithiol er mwyn cyflawni gofynion yr asesiad.
Rhifedd Ymarfer gwe `cyllideb carbon¿ (gweler 1 uchod).
Sgiliau ymchwil Defnyddir gweithdy i ddatblygu sgiliau ysgrifennu cryno, terminoleg, a chynhyrchu datganiadau amgylcheddol cywir.
Technoleg Gwybodaeth Ymarfer gwe `cyllideb carbon¿ (gweler 1 uchod).

Rhestr Ddarllen


E Harland (2002) Eco-renovation p242 Green Books Publications Chwilio Primo R Murray (2002) Zero Waste GReen p211 Environmental Trust publications Chwilio Primo Wastebusters Ltd (2000) The Green Office Manual p306 2nd edition Earthscan publications Chwilio Primo http://cat.org.uk/ http://www.lsda.org.uk/Sustainable/Toolkit/

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7