Module Information

Cod y Modiwl
DA10110
Teitl y Modiwl
POBL A LLE
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
GG10110

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Papur wedi ei gyhoeddi ar ddiwedd tymor y Nadolig  80%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig ar y cyd (i'w gyflwyno yn wythnos 8): 3,000 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad a fydd yn cyfateb i holl waith y modiwl (100%)   100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  1. deall arwyddoca^d y cysyniad o le ar gyfer Daearyddiaeth fel pwnc;
  2. dangos dealltwriaeth o'r amryw gyd-destunau sydd yn gyfryngau i astudio'r berthynas rhwng pobl a lle yn Naearyddiaeth gyfoes;
  3. datblygu dealltwriaeth o'r gwaith ymchwil a wnaethpwyd gan ddaearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill yn y maes hwn;
  4. darllen yn feirniadol, gwerthuso gwybodaeth o ffynonellau gwahanol a chyfathrebu syniadau;
  5. weithio ar y cyd.

Disgrifiad cryno

Pwrpas y modiwl yw i gynnig cwrs rhagarweiniol mewn Daearyddiaeth Ddynol sydd yn archwilio pwysigrwydd y cysyniad o le mewn sawl cyd-destun. Ar o^l cyflwyniad, sy'n nodi'r amryw ffyrdd mae daearyddwyr wedi ystyried y cysyniad o le, trafodir sawl thema o bwys cyfredol wrth astudio lle: sut y dysgir am le gan unigolion; perfformio lle; symudolrwydd a globaleiddio; lle'r genedl; eithrio. Yn hyn o beth, bydd y modiwl yn sylfaen ar gyfer nifer o themau pwysig a drafodir yng ngweddill y cwrs gradd Daearyddiaeth.

Cynnwys

Trafodir y themau canlynol yn y modiwl hwn:
.1. Cyflwyniad: lle yn Naearyddiaeth
.2. Dysgu am le
.3. Perfformio lle
.4. Pobl, lle a symudolrwydd
.5. Pobl, lle a globaleiddio
.6. Pobl, lle a chenedl: ystyriaethau cysyniadol
.7. Pobl, lle a chenedl: astudiaethau achos
.8. Eithrio a lle: cyflwyniad
.9. Eithrio ffisegol, gwleidyddol a dychmygol
.10. Casgliadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir y myfyrwyr i gyfathrebu ar lafar yn y darlithoedd, e.e. mewn grwpiau trafod ac fel unigolion ond ni asesir hyn yn ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Anogir y myfyrwyr i weithio fel ti^m ac i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datrys Problemau Datblygir hyn wrth i'r myfyrwyr ddehongli a pharatoi ar gyfer yr adroddiad ysgrifenedig a'r arholiad.
Gwaith Tim Bydd raid i'r myfyrwyr weithio fel ti^m er mwyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig ar y cyd.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Rhoddir adborth anffurfiol i'r myfyrwyr yn gyson yn y darlithoedd ar sail eu cyfraniadau llafar a bydd yn gyfrwng i'w hannog i wella eu perfformiad. Bydd yr adroddiad ysgrifenedig yn gyfrwng arall i alluogi'r myfyrwyr i wella'u perfformiad. Ni asesir hyn yn ffurfiol.
Rhifedd Bydd cyfle i'r myfyrwyr ddefnyddio gwybodaeth rifyddol er mwyn cwblhau'r ddau aseiniad ar gyfer y modiwl os y mynnent.
Sgiliau pwnc penodol Ni ddatblygir medrau o'r fath.
Sgiliau ymchwil Anogir y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr adroddiad ysgrifenedig a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth er mwyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig ar y cyd.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Cresswell, T.J. (2004) Place: a short introduction 1st oxford, Blackwell Chwilio Primo Holloway, L. a Hubbard, P (2001) People and Place: The Extraordinary Geographies of Everyday Life Llundain: Pearson Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4