Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlithiau 4 x 1.5 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 x 1 awr |
Sesiwn Ymarferol | Dosbarthiadau ymarferol 1 x sesiwn deuddydd yn Sherman Caerdydd. Bydd y sesiynau yma yn cynnwys sesiynau gwylio deunydd sgriptio newydd a gyflwynir yn yr wyl. Fe fydd cyfle drafod ac ymateb yn feirniadol i'r gwaith a gyflwynir ac i leoli hwnnw yn nghyd-destun cynnyrch creadigol y myfyrwyr. Fe fydd yn gyfle i fyfyrwyr lunio map syniadaethol o sgriptio yng Nghymru fodern ac i fyfyrio dros eu cyfraniad nhwn i'r tirlun hwnnw. Fe fydd cyfle i fyfyrwyr gyflwyno elfennau o'u gwaith creadigol eu hunain i ymarferwyr professiynol o dan arweiniad rheolwraig creadigol yr wyl, Sian Summers. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Er mwyn ail-sefyll y modiwl rhaid i fyfyrwyr gyflwyno 2 x sgript unigol, sgript 1 = 30%, sgript 2 = 50% a portffolio = 20% | |
Asesiad Semester | Portfolio | 20% |
Asesiad Semester | Sgript terfynol | 30% |
Asesiad Semester | Cyfraniad i sesiynau dysgu | 10% |
Asesiad Semester | Cwblhau tasgiau rhagbaratoadol | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. sianelu eu hynni creadigol yn bwrpasol trwy gyflawni tasgiau penodol
2. llunio cronfa syniadau ar sail eu profiadau personol boed yn rhai uniongyrchol neu anuniongyrchol
3. datblygu syniad yn fraslun o weithgaredd dramataidd
4. creu cymeriad dychmygus a rhoi llais priodol iddo/i
5. arddangos sgiliau llunio monolog a deilalog
6. ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth a chyngor arbenigol
7. cyflwyno sgript ysgrifenedig i amserlen penodedig wedi ei olygu mewn modd ac i safon proffesiynol
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i nifer o'r sgiliau sylfaenol sy'n berthnasol i'r grefft o ysgrifennu sgriptiau drama megis ymateb i sbardun, trefnu amser, canoli ar dasgau penodol o fewn i amserlen benodedig, sgiliau cynllunio a pharatoi, sgiliau llunio monolog a deialog, y grefft o lunio cymeriad, sgiliau adolygu a golygu ac ymateb yn bositif i feirniadaeth allanol.
Cynnwys
- Sesiwn 1: Chwilio a chanfod ysbrydoliaeth
- Sesiwn 2: Ymateb i sbardunau amrywiol
- Sesiwn 3: Datblygu syniad yn fraslun ac ymgorffori'r braslun ar ffurf gweithgaredd dramataidd
- Sesiwn 4: Creu cymeriadau a rhoi llais iddynt
- Sesiwn 5-8: Bydd y sesiynau yma yn gyfle i adolygu a thrafod y gwaith a gyflwynir yn y sesiynau gan ymarferwyr gwadd ac i weithio ar greu a golygu gwaith sgriptio a lunir mewn ymateb i'r sbardun hwnnw. Fe fydd y cyfnod dwys hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddod i gysylltiad gyda chorff sylweddol o waith newydd sgriptwyr ifanc trwy gyfrwng yr wyl ei hun sy'n ffenestr siop i waith sgriptio newydd yn y Gymraeg. Fe fydd hi hefyd yn darparu cyfle i fyfyrwyr dderbyn sylwadau gan sgriptwyr proffesiynol ar y gwaith a'r syniadau a ddyfeisiwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr lunio cymeriadau a rhoi llais iddynt ac wrth iddynt drafod eu cynlluniau gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng yr hafan gwe a'r sesiynau tiwtorial penodedig |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir y sgil wrth i fyfyrwyr lunio portffolio a fydd yn cyflwyno eu gwaith ar y cyd yn ogystal a'r cryfderau a diddordebau personol yn sgil y broses o ddilyn y modiwl. |
Datrys Problemau | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr fynd i'r afael a'r broblem o ganfod a chynnal ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu. |
Gwaith Tim | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr cyd-drafod a rhannu syniadau trwy gyfrwng yr hafan we ac ar y cyfnodau dwys yn Sherman Cymru. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr sylwebu ar eu gwaith a derbyn sylwebaeth ac wrth iddynt ymgymryd a gwaith golygu ac adolygu. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe ddatblygir y gallu i ysgrifennu mewn arddull ac ar fformat sy'n benodol berthnasol i waith sgriptio mewn gwrthgyferbyniad a gwaith ysgrifenedig traddodiadol megis cyflwyno traethodau neu gwblhau arholiadau ysgrifenedig . Datblygir y gallu i gyflwyno a chyfryngu gwaith mewn modd creadigol a deallus sy'n cynnwys y gallu i ymateb yn uniongyrchol ac adeiladol i feirniadaeth o du cynulleidfa neu ddarpar gynulleidfa. Datblygir y gallu i ddeall hanfod theatraidd y testun ysgrifenedig ac i gyfleu'r cyfryw ddealltwriaeth wrth baratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr chwilio am ddeunydd cefndirol addas i sbarduno sgript gwreiddiol. |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir y sgil hwn trwy ddefnyddio'r we fel cyrchfan ar gyfer deunydd cefndirol ac ymchwil yn ogystal ag wrth ddefnyddio'r hafan we fel gweithdy syniadau. |
Rhestr Ddarllen
HanfodolGooch, Steve (1995) Writing a Play Chwilio Primo Testun A Argymhellwyd
Dancyger, Ken & Jeff Rush (1995) Alternative Scriptwriting: Successfully Breaking the Rules Oxford Chwilio Primo Davis, Rib (2001) Developing Characters for Scriptwriting A & C Black Chwilio Primo Phillips, William (1999) Writing Short Scripts Syracuse University Press Chwilio Primo Thomas, M. Wyn (1992) Internal Difference: Twentieth Century Writing in Wales University of Wales Press Chwilio Primo Wood, David (1944) Theatre for Children: A Guide to Writing, Adapting, Directing and Acting Faber Chwilio Primo Yeger, Sheila (1990) Sound of One Hand Clapping Amber Lane Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5